Yr effaith ar gleifion

Gellir rhannu ein cleifion yn grwpiau ar sail iechyd meddwl cyn covid:

  • Cleifion â diagnosis eisoes sydd ar gofrestr Meddyg Teulu - sefydlog/ansefydlog
  • Newydd gael diagnosis cyn y cyfyngiadau symud ac sydd o dan wyliadwriaeth
  • Cleifion â diagnosis blaenorol ond nad ydynt bellach yn cael triniaeth
  • Cyflwyniad newydd o broblemau iechyd meddwl
  • Y rhai hynny sydd mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i covid-19

Dylai’r ddau grŵp cyntaf fod yn hysbys i ymarferwyr a dylai trefniadau i wneud galwadau ffôn dilynol i’w monitro fod ar waith. Y gobaith yw y bydd hyn yn galluogi cleifion a meddygon i ganfod cleifion sy’n ei chael yn anodd ymdopi cyn i’w hiechyd meddwl ddirywio’n ormodol.

Ar ôl i’r grŵp hwn o gleifion gael ei adolygu gellid adolygu’r rhai hynny sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl yn y gorffennol a hynny ar ffurf ymgynghoriad dros y ffôn neu holiadur i weld sut maent yn ymdopi, a gellir cynnal adolygiad mwy ffurfiol os oes pryderon yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r asesiad cyntaf.

Mae heriau penodol yn codi gyda’r pedwerydd grŵp. Bydd Covid-19 yn arwain at bob math o gyflwyniadau iechyd meddwl. Gall gorbryder cynyddol, teimlo’n ynysig sy’n arwain at hwyliau isel ac iselder, golchi dwylo sy’n gysylltiedig ag OCD a PTSD posibl ar ei ôl.

Dylid gallu adnabod yn hawdd y rhai hynny sy’n chwilio am help a’u trin ar sail hynny. Ond beth am y rhai hynny nad ydynt mor barod i drafod eu symptomau iechyd meddwl? A ddylai sgrinio iechyd meddwl yn gyflym gael ei ymgorffori yn ein galwadau ffôn rheolaidd? Gallai cwestiwn ar ddiwedd yr ymgynghoriad fel, ‘sut ydych chi’n ymdopi â phopeth?’, ‘a fyddwch chi’n teimlo weithiau nad ydych yn gallu ymdopi?’, arwain at adolygiad mwy ffurfiol os oes pryderon yn cael eu mynegi.

Mi all y grŵp olaf fod yn un anferthol. Fel y trafodwyd uchod rydym i gyd mewn perygl o ddioddef problemau iechyd meddwl o ganlyniad i’r pandemig hwn. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau o gleifion a all fod mewn mwy o berygl nag eraill, a dylid ystyried gwneud gwaith monitro mwy penodol yn achos y rhain.

Gweithwyr allweddolGofalydd yn gwisgo amdan menyw

Mae’r grŵp hwn yn wynebu’r risg bob dydd o gael eu heintio’n uniongyrchol drwy fynd i’w gwaith. Bydd cyfran uchel o’r grŵp hwn yn weithwyr gofal iechyd – ni ein hunain a’n cydweithwyr. Mae iechyd galwedigaethol yn gweithio â staff ysbytai i geisio lleddfu straen a helpu staff y GIG. Gobeithir y bydd hyn yn ysgafnhau’r baich ar ofal sylfaenol i’r grŵp hwn. Ond beth am ofal sylfaenol? Pa gymorth sy’n cael ei gynnig i Feddygon Teulu a’u staff? Dylid cynnal adolygiadau, ôl-drafodaethau, trafodaethau tîm a chymorth i’r grŵp hwn o staff.

Di-waith neu ar ffyrlo o ganlyniad i covid-19

Mae’r modiwl iselder yn dysgu i ni fod cyflogaeth nid yn unig yn cynnig sefydlogrwydd ariannol ond hefyd ymdeimlad o bwrpas a hunaniaeth mewn bywyd. Gwelwyd fod pobl ddi-waith yn dangos cyfraddau uwch o gyflyrau iechyd meddwl ac mae hyn, ynghyd ag ofni pandemig byd-eang, a cholli rhyddid yn golygu bod pawb o fewn oedran gweithio mewn perygl.

Yr henoed a rhai â gwaeledd corfforol

Yn achos y rhai hynny sydd wedi cael llythyrau gwarchod neu sydd yn y grŵp sy’n cael eu cynghori i ynysu’n llwyr, gall yr effaith ar iechyd meddwl fod yn enfawr. Bydd rhai sydd mewn cartrefi nyrsio’n cael help gweithwyr gofal ond gall straen ychwanegol achosion o’r feirws yn y cartrefi eu hunain wneud pethau’n waeth. Efallai y bydd rhai sydd gartref ar eu pen eu hunain yn cael ymweliadau gan ofalwyr ond mae’r defnydd o PPE a chadw pellter cymdeithasol pan yn bosibl wedi gwneud yr ymweliadau hyn yn llai personol. Mae llawer wedi eu gadael gartref ar eu pen eu hunain heb gysylltiad â’r byd allanol. Mae’r henoed yn llai tebygol o fod â defnydd o adnoddau ar-lein i gymryd rhan mewn cymdeithasu rhithiol a gall fod yn anos iddynt i gael gafael ar gymorth gofal iechyd.

Pobl sydd mewn perygl eisoes  

Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys plant mewn perygl a rhai sy’n dioddef trais domestig. Mae nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu’n sylweddol iawn ers y cyfyngiadau symud ac mae pryderon hefyd am blant mewn perygl.

Wrth edrych ar y grwpiau cleifion hyn, mae nifer y bobl a all fod angen neu a fyddai’n elwa ar ryw fath o gymorth iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn hyn enfawr a byddai’n cynnwys bron holl boblogaeth y practis. Byddai’n amhosibl cysylltu â phob unigolyn a all fod mewn perygl, felly beth ddylid ei wneud?

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau