Casgliad

Rwyf yn credu mai’r ffordd orau yw canfod y grwpiau uchod a gweithio ein ffordd drwy’r tri grŵp cyntaf a restrwyd. Os bydd pob ymgynghoriad ar gyfer cyflyrau corfforol yn cloi gyda’r cwestiwn sgrinio iechyd meddwl i ganfod cleifion mewn perygl, yna bydd mwy o gleifion yn cael eu canfod. Y peth hanfodol yw bod yn rhaid i bobl ddeall bod cymorth Meddygon Teulu ac iechyd meddwl yn dal ar gael. Mae Meddygon Teulu ar agor ac mae ganddynt y modd i ddelio â phroblemau iechyd meddwl. Rhaid i gleifion sylweddoli bod cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu trin fel blaenoriaeth ac yr ymdrinnir â hwy yn brydlon a diogel. Byddai hyn yn digwydd dros y ffôn yn y lle cyntaf, ond gall dulliau ymgynghori eraill gael eu cynnig, os nad yw hyn yn dderbyniol/posibl neu os oes gan yr ymarferydd unrhyw amheuaeth ynglŷn â dibynadwyedd asesiad heb ryngweithio wyneb yn wyneb. Gall ymgynghoriad fideo gynnig lefel uwch o gysylltiad gan roi cyfle i asesu iaith y corff ac asesiad o “wyneb ffisegol” salwch meddwl. Rhaid ystyried mater cadw pellter cymdeithasol a PPE fel yn achos unrhyw gyflwr corfforol lle byddai angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Gweler ein modiwl ar Iselder a Phryder i gael cyfeiriad pellach.

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau