Hunanadrodd

Er degawdau, cyfrifoldeb y clinigwyr fu adrodd am ADRau.  Ond, yn aml mae meddygon, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, er bod ganddynt gyfoeth o wybodaeth glinigol, yn brin o amser, ac yn aml nid yw adrodd am ADRau wedi bod yn flaenoriaeth.  Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae adrodd am ADRau wedi bod yn agored i’r cyhoedd.  Mae Cynllun Cerdyn Melyn yn cydnabod mai cleifion sydd yn aml yn y sefyllfa orau i ganfod sgil effeithiau y meddyginiaethau maent yn eu cymryd, eu heffaith ar eu bywydau a phwysigrwydd adrodd amdanynt.  Yn ystod y blynyddoedd nesaf byddai MHRA yn dymuno annog mwy o’r cyhoedd sydd yn cael profiad o ADR i anfon Adroddiadau Cerdyn Melyn.  Er mwyn cynorthwyo hynny ma MHRA wedi cynhyrchu fideos animeiddiad a phosteri i gleifion a ddyluniwyd ar gyfer ystafelloedd aros, sydd yn annog cleifion i adrodd am ADRau a amheuir.

Gellir lawrlwytho ‘r rhain o JayEx – Med-Extranet 

Mae tîm Cerdyn Melyn Cymru hefyd wedi cyflwyno rhaglen Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn, sydd yn addysgu aelodau dethol o’r cyhoedd ac sydd yn gofyn iddynt hyrwyddo adrodd drwy Gardiau Melyn ar y cyfryngau cymdeithasol.  Gobeithir y bydd y mentrau yma yn cynyddu adrodd am ADR ymysg y cyhoedd ac yn helpu i Fyrddau Iechyd gyrraedd eu mynegai Rhagnodi Cenedlaethol (cynnydd o 50% neu fwy mewn adroddiadau Cerdyn Melyn gan aelodau’r cyhoedd).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau