Cyflwyniadau clefyd seliag

Gall clefyd seliag ymddangos mewn pobl o bob oed, ac erbyn hyn mae’n cyflwyno’n fwy cyffredin ymysg oedolion. Gall y symptomau fod yn glasurol neu fod yn guddiedig ac yn gysylltiedig ag amlygiadau nad ydynt yn GI. 

Mae NICE yn awgrymu profion serologicaidd ar gyfer pobl sydd â:-

selsig ar farbeciw

  • symptomau abdomenol neu astroberfeddol parhaus na ellir eu hegluro 
  • twf ansicr 
  • blinder parhaus 
  • Colli pwysau yn annisgwyl 
  • doluriau ceg difrifol neu barhaus 
  • diffyg haearn, fitamin B12 neu ffolat heb eglurhad 
  • diabetes math 1 ar adeg diagnosis 
  • clefyd thyroid awtoimiwn ar adeg diagnosis 
  • syndrom coluddyn llidus (mewn oedolion) 
  • perthnasoeddagos gyda chlefyd seliag 

Mae yna hefyd gysylltiad â ffrwythlondeb is (gall hyd at 8% fod â chlefyd seliag). Gall triniaeth ar gyfer clefyd seliag wella deilliannau o ran ffrwythlondeb. Mae NICE hefyd yn awgrymu ystyried pobl sydd ag:-

  • anhwylder esgyrn metabolaidd (dwysedd mwynau esgyrn gostyngedig neu osteomalacia) 
  • symptomau niwrolegol na ellir eu hegluro (yn benodol niwropathi ymylol neu atacsia) 
  • ffrwythlondeb is heb ei egluro neu gamsegor mynych 
  • ensymau afu uwch yn barhaus heb achos hysbys 
  • diffygion i enamel deintyddol 
  • Syndrom Down’s 
  • Syndrom Turner 

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau