Profi ar gyfer clefyd seliag
Mae Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain wedi cyhoeddi canllawiau interim newydd ar yr angen am endosgopi i gadarnhau diagnosis clefyd Seliag, gellir eu cyrchu yma. Mae'r canllaw yn dileu'r angen am endosgopi a biopsi i gadarnhau'r diagnosis lle mae profion serolegol yn awgrymog iawn o glefyd Seliag. Cyhoeddwyd y canllaw hwn o ganlyniad i bandemig Covid ac maent yn destun adolygiad hyd nes y cyhoeddir Canllaw Seliag CGP newydd a ddisgwylir yn 2021.
Pan fyddwch yn dymuno profi neu sgrinio ar gyfer seliag, efallai bydd y prawf a berfformir gan y labordy yn amrywio yn unol ag argaeledd lleol a nodweddion y claf.
Os bydd y cais ar gyfer “seroleg seliag” dylai’r labordy:-
Ar gyfer pobl ifanc ac oedolion:
- Brofi ar gyfer cyfanswm IgA ac IgA transglwtamnas meinwe (tTG)
- Os bydd IgAtTG yn gadarnhaol wan, profwch ar gyfer IgA gwrthgyrff endomysiaidd (IgA EMA)
- Os bydd yna ddiffyg IgA, gellir profi IgG EMA, IgG peptid gilandin demidyddedig (IgG DGP) neu IgG tTG
Mewn plant:
- Profi ar gyfer cyfanswm IgA ac IgA tTG rheng flaen
- Eto, os bydd diffyg IgA defnyddir un neu ragor o IgG EMA, IgG DGP neu IgG tTG
Cyn profi, mae’n hanfodol bwysig y rhoddir cyfarwyddyd i’r unigolyn fwyta dim glwten bob diwrnod am 6 wythnos. Gallai methu â gwneud hynny arwain at brawf negyddol ffug.
Dylai prawf gwaed cadarnhaol arwain at atgyfeirio at ofal eilaidd ble bydd angen endosgopeg a biopsi dwodenaidd er mwyn cadarnhau’r diagnosis. Yn yr amser rhwng prawf cadarnhaol ac endosgopi, dylid dweud wrth y person am barhau gyda'i ddiet di-glwten. Mae’r problemau sydd yn gysylltiedig â thynnu glwten o’r deiet heb gyngor dietegol arbenigol yn ddeublyg. I ddechrau mae’n ychwanegu at ddryswch diagnostig oherwydd gallai biopsi a mwy o brofion erolegol fod yn negyddol a gall deiet nad yw’n gytbwys arwain at fwy o ddiffyg haearn ac ennill pwysau.