Trosolwg

Mae clefyd seliag yn anhwylder awtoimiwn. Mae amlygiad i glwten yn y deiet yn arwain at ymateb imiwn annormal. Gall nifer o wahanol o wrthgorffynnau gael eu cynhyrchu a gall ymateb llidus dilynol yn y coluddyn bach arwain at atroffeg filaidd (byrhau’r fili). Mae lleihau’r ardal amsugno sydd ar gael yn y coluddyn bach yn arwain at nifer or cymhlethdodau sydd yn gysylltiedig â’r camamsugnad cronig a welir mewn pobl â chlefyd seliag sydd heb eu trin. 

bowlen o fayonnaise

Yn fyd-eang mae clefyd seliag yn effeithio ar tua 0.5-1% or boblogaeth, ond yng Ngogledd Ewrop mae hynny yn codi, ac mae’r amcangyfrifon ar gyfer mynychder yn y DU yn rhwng 0.8-1.9%. Un or prif broblemau gyda chlefyd seliag yw ei adnabod. Amcangyfrifir bod 85-90% or bobl â chlefyd seliag heb eu diagnosio. Mae’r amrywiol gyflwyniadau o seliag yn golygu ei fod yn anodd ei ddiagnosio a’r amser cymedrig o ddechrau’r symptomau i ddiagnosis yn 10 mlynedd neu ragor. 

Ar ôl ei ddiagnosio, y brif driniaeth yw deiet heb glwten a monitro ar gyfer llithro’n ôl a diffygion.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau