Amledd hyfforddiant
Mae’r ddogfen gyfeiriadau allweddol ar gyfer gwirio argymhellion a gofynion ar gyfer hyfforddiant diogelu ar gael yn Diogelu Plant a Phobl Ifanc: Rolau a Chymwyseddau Staff Gofal iechyd - Pedwerydd Argraffiad: Ionawr 2019 - Dogfen Rhyng-golegol.
Mae amledd hyfforddi/diweddaru hefyd yn amrywio yn ôl lefel y cymwyseddau sydd ei hangen.
Ym mhob cyfnod o dair blynedd, y gofynion yw;
- Lefel 1: Lleiafswm o 2 awr
- Lefel 2: Lleiafswm o 3 -4 awr
- Lefel 3, cymwyseddau craidd: Lleiafswm o 6 awr
- Lefel 3, gwybodaeth a sgiliau arbenigol: Lleiafswm o 12 -16 awr
- Lefel 4: Lleiafswm o 24 awr
- Lefel 5: Lleiafswm o 24 awr
Dylai’r rhai sydd angen cymwyseddau ar Lefelau 2 ac uwch feddu hefyd ar y cymwyseddau ym mhob un o’r lefelau blaenorol, ond nid oes angen ond diweddaru’r lefel uchaf a gyrhaeddir yn unig.i
Mae’n bwysig pwysleisio nad yw hynny yn golygu bod angen mynychu digwyddiadau hyfforddi am oriau. Cyfrifoldeb y meddyg, yn ystod eu gwerthusiad, yw dangos eu bod yn gymwys ac yn gyfredol. Y meddyg sydd i benderfynu sut mae hynny yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r arfarnwr, a gellir gwneud hynny mewn amrywiaeth o'r ffyrdd y cyfeirir atynt uchod.
Ar gyfer contractwyr annibynnol a phreifat, mae yna hefyd ofyniad i “sicrhau bod gan yr holl staff iechyd fynediad at hyfforddiant diogelu, cyfleoedd dysgu a chymorth i hwyluso eu dealltwriaeth o agweddau clinigol lles plant a rhannu gwybodaeth”.i Mae hynny yn arbennig o berthnasol mewn Gofal Sylfaenol pan fo raid cynnal hyfforddiant i’r holl staff hefyd bob tair blynedd. Mae e-ddysgu ar gael am ddim yng Nghymru i holl staff y GIG yn cynnwys rhai sydd yn gweithio mewn gwasanaethau contract Gofal Sylfaenol megis Practis Cyffredinol. Mae yna ddolen i sut mae cael mynediad i hyn yn yr adran ‘Adnoddau Hyfforddiant’.