Y gofynion ar gyfer pob meddyg
Mae’n glir ym mhob canllaw cenedlaethol bod raid i bob Meddyg allu dangos cymhwysedd o ran diogelu plant ac ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd. Hefyd mae yna ganllawiau penodol ar ba gymwyseddau sydd yn ofynnol ar gyfer rolau a chyfrifoldebau penodol.
Mae Canllawiau GMC [x] yn nodi ei bod yn ddyletswydd ar bob meddyg i weithredu ar unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch diogelwch neu les plentyn neu berson ifanc. Mae hynny yn cynnwys meddygon sydd yn trin cleifion sydd yn oedolion.
Hefyd, yn achos pob meddyg, mae’n nodi;
- Mae’n rhaid* i chi ddatblygu a chynnal gwybodaeth a sgiliau er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc ar lefel sydd yn briodol i’ch rôl. Mae gwybodaeth am lefel yr hyfforddiant diogelu plant sydd ei angen ar gyfer gwahanol rolau, a pha mor aml y dylai meddygon dderbyn hyfforddiant, ar gael yn Diogelu Plant a Phobl Ifanc: Rolau a Chymwyseddau Staff Gofal iechyd - Pedwerydd Argraffiad: Ionawr 2019 - Dogfen Rhyng-golegol. Hefyd dylech gymryd rhan mewn hyfforddiant ar sut mae cyfathrebu’n effeithiol gydag ystod eang o grwpiau o rieni, plant a phobl Ifanc.
*Yn y canllawiau yma....defnyddir ‘Mae’n rhaid’ ar gyfer dyletswydd neu egwyddor tra phwysig.
- Os ydych yn gweithio gydag oedolion, dylech sicrhau eich bod yn gallu adnabod ffactorau risg yn eu hamgylchedd allai godi pryderon am gamdriniaeth neu esgeulustod, ac a yw cleifion yn achosi risg i blant neu bobl ifanc sydd yn agos atynt.
Mae GIG Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i holl staff gofal iechyd fodloni’r cymwyseddau yn yr ICD i lefel sydd yn briodol i’w rôl.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn cynnwys hawl y plentyn i gael ei ddiogelu rhag niwed. Mae diogelu yn berthnasol i nifer o Erthyglau’r cytundeb, yn arbennig Erthyglau 3, 6, 19, 34 a 39. j Mae llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ddyletswydd i roi sylw dyledus i UNCRC mewn perthynas â’i holl benderfyniadau a pholisïau. Mae yna ddyletswydd ychwanegol i roi sylw dyledus i UNCRC o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014.
Mae yna adran yn natganiadau gwefan MARS sydd yn gofyn i bob meddyg ddatgan pa lefel cymhwysedd maent wedi ei chynnal yn ystod eu cylch ail-ddilysu presennol.