Y practis meddyg teulu
Pan fo unigolyn un ymuno â’r Lluoedd Arfog byddant yn dod yn bersonél Gwasanaeth Arferol, a byddir yn diddymu eu cofrestriad gyda meddyg teulu sifiliaid. Byddant yn dod yn rhan o system gwasanaeth iechyd a gydlynir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae eu system gofal iechyd yn wahanol iawn i’r GIG. Mae personél y gwasanaeth a’r Lluoedd Arfog yn rhoi pwys mawr ar ffitrwydd corfforol. Disgwylir i bersonél adrodd am salwch ar unwaith. Mae ganddynt fynediad at gymorth gofal iechyd o ansawdd uchel. Ar ôl adrodd am anaf neu salwch, gwneir asesiad er mwyn penderfynu pa effaith, os o gwbl, fydd hynny yn ei gael ar allu yr unigolyn i weithredu. Ni all personél y lluoedd arfog hunanardystio am gyfnodau o fân afiechydon.
Bydd y Lluoedd Wrth Gefn yn parhau i gael gofal gan feddygon teulu y GIG oni bai eu bod yn cael eu galw, ac yna gallent gael mynediad at system gofal iechyd yr MoD am hyd at chwe mis ar ôl yr alwad.
Gall y diwylliant ffitrwydd yn y Lluoedd Arfog ei gwneud yn anodd i drafod problemau iechyd meddwl. Mae meddygon yn y Lluoedd Arfog yn uchel swyddogion a gall hynny hefyd effeithio’n niweidiol ar dueddiadau ceisio iechyd y rhai sydd â statws is. Mae yna hefyd ddiwylliant o stoiciaeth ac ymddangosiad allanol o gryfder a chadernid, a gall hynny hefyd fod yn niweidiol.
Wrth adael y Lluoedd Arfog bydd Cyn-filwr yn derbyn gofal y GIG arferol a rhoddir copi o’r cofnodion meddygol llawn i’r Cyn-filwr. Maent hefyd yn cael manylion cyswllt er mwyn i feddyg teulu wneud cais am gopïau. Bydd meddygon teulu naill ai'n derbyn copi gan yr MoD neu gallent ofn am gopi gan:-
Y Llynges Frenhinol | Y Fyddin | Y Llu Awyr Brenhinol |
---|---|---|
The Medical Director General Medical Records Release Section Institute of Navy Medicine Alverstoke, Hants PO12 2DL T: 023 9276 8063 |
Army Personnel Centre Disclosure 3 Mailpoint 525, Kentigern House 65 Brown St, Glasgow G2 8EX T: 0845 600 9663 |
Medical Casework 6 Air Manning Medical Casework Headquarters Air Command Room 1 Building 22, Royal Air Force High Wycombe, Walters Ash, Buckinghamshire HP14 4UE T: 01494 497410 |
Os ydych yn gweithio mewn practis meddyg teulu
- A ydych yn gofyn i glaf sydd newydd gofrestru a yw erioed wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog?
- Petai cofrestrai newydd wedi cael ei ryddhau’n ddiweddar o’r Lluoedd Arfog a fyddech yn cynnig ymgynghoriad cynnar gyda meddyg teulu er mwyn delio ag unrhyw faterion posibl?
- A fyddech yn codio’r ffaith ei fod yn Gyn-filwr?
- A fyddech yn gwirio bod copi o gofnodion meddygol Gwasanaeth yn y cofnodion meddyg teulu?