Iechyd rhywiol

Iechyd rhywiol 13,14 

P'un ai yw sgrinio iechyd rhywiol yn digwydd mewn gofal sylfaenol neu beidio, mae gan feddygon teulu rôl bwysig i'w chwarae mewn adnabod cleifion ag anghenion heb eu cwrdd o gofio bod stigma a gwahaniaethu'n aml yn atal pobl rhag manteisio ar y gwasanaethau hyn.

Mae'r anghysondeb mewn mynediad at ofal iechyd wedi'i adlewyrchu mewn data byd-eang sy'n nodi bod gan 19.1% o bobl drawsryweddol HIV, a bod menywod traws (yn enwedig menywod lliw) 49 gwaith yn fwy tebygol o fod yn byw gyda HIV o'i gymharu â'r boblogaeth yn gyffredinol15. Mae dynion traws sy'n cael rhyw gyda dynion yn aml wedi eu grwpio i'r cohort MSM (dynion sy'n cael rhyw gyda dynion) ac o ganlyniad wedi eu tangynrychioli yn y data.

Mae unrhyw glaf, beth bynnag yw eu hunaniaeth ryweddol, sy'n cael rhyw mewn sefyllfaoedd lle na ddefnyddir condoms ac sy'n HIV negyddol, yn ymgeisydd addas am HIV PrEP (proffylacsis cyn-gyswllt)16.

Dylech fod yn effro i gyfraniad problemau iechyd meddwl a chyffuriau ac alcohol yn y cyd-destun hwn.

Yn y DU mae pob person traws sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol yn cael cynnig prawf HIV a syffilis, ac mae rhai'n darparu HIV PrEP.

 Mae unrhyw berson dan 45 oed sydd â risg debyg i MSM (dynion sy'n cael rhyw gyda dynion) yn gymwys ar gyfer y brechiad HPV pedwarfalent. Mae brechiad HPV hefyd yn bwysig i bobl AFAB gyda serfics (gwddw'r groth).

Mae'n ddefnyddiol gwybod a gafodd eich claf unrhyw lawdriniaeth genital, a chynnwys eu llawfeddyg os oes unrhyw symptomau rhedlif yn y chwe mis cyntaf ar ôl llawdriniaeth. Er enghraifft, gallai rhedlif faginaidd mewn menyw 'draws' a gafodd lawdriniaeth faginoplasti fod yn gysylltiedig â thwf gor-feinwe cysylltiol newydd neu stenosis faginaidd ac ni ddylid cymryd yn ganiataol mai STI ydyw.

Bydd gwybod a gawsant lawdriniaeth genital a sut fath ydoedd hefyd yn sicrhau y bydd y mannau priodol yn cael eu swabio. Er enghraifft, yn y DU mae neo-fagina fel arfer yn cael ei chreu'n defnyddio croen pidlen, fel bod heintiau STI yn llai tebygol. Gellid colli ffocws yr haint pe bai dim ond swab fwlfa-faginaidd yn cael ei wneud yn yr achos hwn.

Felly hefyd, bydd gan rai dynion traws a gafodd lawdriniaeth genital wrethra wedi'i greu o grafftiau croen. I eraill defnyddir meinwe o'r boch, e.e. mewn metoidioplasti, lle mae'r clitoris mwyedig yn cael ei ffitio ag wrethra gyda leinin mwcosaidd.

Gall cymryd hormonau hefyd ddylanwadu ar gyflwyniad symptomau iechyd rhywiol. Er enghraifft gall faginitis atrophig cysylltiedig â thestosteron, pan fo'n ddifrifol, gyflwyno gyda rhedlif o'r fagina yn niffyg STI.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau