Iechyd trawsryweddol – Trosolwg
Gyda'r galw am wasanaethau Hunaniaeth Ryweddol yn cynyddu yn y DU, mae'n dilyn y bydd mwy a mwy o feddygon teulu'n dod ar draws pobl 'draws' ac anneuaidd ar lwybr o drawsnewid yn ffurfiol dan ofal y GIG. Mae yna hefyd unigolion yn chwilio am gymorth naill ai drwy'r system breifat, neu'n hunan-feddyginiaethu'n anffurfiol drwy brynu dros y we. Mae'r senario olaf wedi arwain at gryn bryder yn y gymuned gofal iechyd ehangach.
Mae tystiolaeth dda i ddangos bod cymorth meddygol drwy hormonau a llawdriniaeth yn gwella lles, gan gynnwys drwy leihau gorbryderu, iselder, meddwl am hunanladdiad a chamddefnyddio sylweddau.1
I'r mwyafrif llethol o bobl ar therapi hormonau, bydd y driniaeth yn un gydol oes. Mae ystyriaethau meddygol a chymdeithasol pan fo'n fater o roi sylw i anghenion y bobl hyn wrth iddynt fynd yn hŷn.
Mae'r modiwl ar Amrywiaeth Rhyweddol yn tywys dysgu sgiliau ymgynghori cadarnhaol drwy wella dealltwriaeth o derminoleg ac iaith, cyflwyniadau a hunaniaethau rhyweddol, ac ystyriaethau gweinyddol a chyfreithiol yn y cyd-destun hwn.
Dyluniwyd y modiwl hwn i roi trosolwg ar ymyriadau cadarnhau rhywedd yn ogystal ag ystyriaethau ar gyfer gwella iechyd rhywiol ac atgenhedlu o bersbectif gofal sylfaenol.
I ddechrau ar y modiwl, dylech gychwyn gyda'r Cwestiynau Dewis Lluosog (MCQ) cyn-brawf.
Yna byddwch yn gweithio drwy astudiaethau achos i gadarnhau eich dysgu cyn ail-sefyll yr MCQ.