Crynodeb
Mae poen cronig yn broblem gyffredin a gall effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd pobl.
Gall y driniaeth fod yn gyfyngedig, oherwydd nid yw’n ymddangos bod nifer o feddyginiaethau yn fuddiol i gleifion. Bydd meddygon gofal sylfaenol yn aml yn gweld pobl yn dioddef poen cronig nifer o weithiau yn agos i’w gilydd er mwyn cynyddu eu meddyginiaeth, a gall y rhain fod yn adegau rhwystredig iawn i’r ,meddyg a’r claf, yn arbennig os na fydd yn ymddangos bod y cleifion yn gwella. Mae yna opsiynau anffarmacolegol o ran triniaeth a dylid eu hannog a dylai meddygon teulu bennu disgwyliadau realistig ar gyfer y cleifion a’u cyfeirio at adnoddau lleol defnyddiol.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.