Poen yr wyneb annodweddiadol / Syndrom ceg yn llosgi / Poen yr wyneb seicogenig

Mae’r termau hyn yn cael eu defnyddio i ddisgrifio poen yr wyneb (“oro-facial”) na ellir ei egluro gan unrhyw achos organig na chorfforol. Gellir cael diagnosis drwy eithrio achosion eraill ac yn aml bydd cleifion wedi cael archwiliadau neu ymyraethau deintyddol helaeth sydd heb leddfu'r boen. Efallai y gellir disgrifio’r boen mewn termau nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’r norm fel ‘cosi’ neu ‘losgi’; yn aml ni ellir ei leoli ac efallai y bydd yn croesi’r llinell ganol. Gallai fod yn boen parhaus ac mor ddifrifol nes ei fod yn annioddefol ac eto nid yw’n effeithio ar fywyd bob dydd yr unigolyn (o’i gymharu â rhywun sydd â pulpitis anghildroadwy difrifol. Nid yw'r cleifion hyn yn gallu meddwl am ddim byd arall heblaw’r boen.) Nid yw hynny’n golygu nad yw’r boen yn un ‘go iawn’, ond nid yw’r achos yn un corfforol.

Mae’r rhan fwyaf o’r cleifion hyn yn rhai canol-oed ac yn fenywod hŷn a’r prif nodweddion yw:

  • Poen annelwig sy’n lledaenu’n afreolaidd fel croesi’r llinell ganol.
  • Termau disgrifio anarferol
  • Dydy bwyd poeth neu oer ddim yn achosi’r broblem.
  • Ymateb gwael i analgesia, er weithiau bydd peidio â rhoi unrhyw analgesia yn cael ei gynnig er mor ddifrifol yw’r boen.
  • Gwaeth yn y bore.
  • Dim llawer o effaith ar gysgu neu fwyta.
  • Hanes sy’n gysylltiedig â phoen yn y gwddf, poen cefn ac anhwylderau abdomenol fel IBS.
  • Efallai bod hanes hir o ymyriaethau deintyddol aneffeithiol.

Efallai bod cysylltiad cryf rhwng salwch sy’n gysylltiedig ag iselder. Cam cyntaf defnyddiol fyddai gofyn i’r claf lenwi sgôr H.A.D neu holiadur seicolegol tebyg. Bydd atgyfeiriad i arbenigwr Meddygaeth y Geg fel arfer yn cael ei awgrymu oherwydd bod ceisio rheoli’r cleifion hyn yn broses hir a chymhleth.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau