Anhwylderau’r cymal temporomandibwlaidd (TMJD)

Casgliad o gyflyrau cronig yw’r rhain sy’n effeithio ar y cymal temporomandibwlaidd, cyhyrau masticaidd a strwythurau cyfagos er bod poen yn gallu gwaethygu cryn dipyn. Maen nhw’n gallu creu effeithiau bio-seicogymdeithasol ar gleifion a dylid eu rheoli’n unol â hynny. Mae’n bwysig nodi nad ydyn nhw’n achosi niwed i’r cymal yn y tymor hir nac ychwaith yn achosi arthritis. Dyma achos mwyaf cyffredin poen yr wyneb yn ôl deintyddion a meddygon.

Mae’r cymal temporomandibwlaidd yn strwythur cymhleth sy’n cynnwys cymal “synovial” a chapsiwl cyfagos, pen y condyl mandibwlaidd, a’r disg articwlaidd a glenoid fossa’r asgwrn arleisiol. Dylai disg articwlaidd mewn cymal iach symud ymlaen yn gydamserol gyda phen y condyl wrth i’r geg agor. Mae rhan flaen y ddisg yn wan iawn ac mae’r rhan gefn yn gryf ac yn llawn nerfau synhwyraidd. Lle mae anhawster yn y symudiad cydamseredig hwn, rhan gefn y ddisg sy’n teimlo’r grym ac yn sgil hynny yn achosi i’r claf deimlo poen. Mae symudiad y swyddogaeth mandibwl yn cael ei hwyluso gan y cyhyrau masticaidd. Mae clip fideo sy’n dangos sut i archwilio claf am TMJD i’w weld drwy’r ddolen fideo isod:

 

Mae arwyddion a symptomau TMJD yn cynnwys:

  • Poen wrth agor a chau sy’n aml yn waeth yn y bore.
  • Trismus
  • Poen yn y pen, y gwddf a’r ysgwyddau
  • Clicio a chrepitws yn y TMJ
  • Yr ên yn cloi er enghraifft wrth ddylyfu gên.

Rheoli: Gall cleifion ddangos poen yn enwedig yn ystod cyfnodau difrifol. Gallai fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y math hwn o boen a phoen y ddannodd heb archwilio’r cymal a’r cyhyrau masticaidd. Mae’n bwysig ceisio tawelu meddwl y claf ac mae technegau nad ydyn nhw’n fewnwthiol yn llwyddiannus iawn. Mae’r rhain yn cynnwys:

Bwyta deiet meddal am ychydig ddyddiau, hy osgoi bara crystiog neu lysiau amrwd

Rhoi rhywbeth poeth ar y man poenus, hy potel ddŵr poeth neu becyn poeth.

Cymryd cyffuriau gwrthlidiol heb steroid os oes modd eu cymryd

Weithiau bydd deintyddion yn gwneud sblint achludo meddal i’r claf gael gwisgo.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau