Periodontitis apigol difrifol
Pan fydd chwyddiant pulpitis anghildroadwy difrifol wedi lledaenu i’r meinweoedd o amgylch blaen gwreiddyn y dant, bydd y dant yn dyner fel na ellir ei gyffwrdd ac mae modd gwybod yn union lle mae’r boen. Mae hynny oherwydd presenoldeb propriodderbynyddion yn y meinwe sydd bellach wedi chwyddo. Efallai bydd y dant yn cael ei wthio o’r soced a bydd yn boenus i’w gyffwrdd neu i frathu.
Gellir ei reoli wrth i ddeintydd ymyrryd â’r broses o dan analgesia lleol. Bydd y driniaeth yn golygu un ai tynnu’r dant neu agor siambr y bywyn a sianel y gwreiddyn, cael gwared â darnau necrotig, dyfrhau gyda gorchudd diheintio a fydd yn gyfuniad o steroid a phast gwrthfiotig. Nid yw gwrthfiotigau’n effeithiol ac felly ni ddylid rhoi presgripsiwn amdanyn nhw. Dylai cleifion sy’n ymweld â’u Meddyg Teulu gael rhif Llinell Gymorth Deintyddol eu Bwrdd Iechyd er mwyn cysylltu â deintydd mewn argyfwng.