Cyngor ar gyfer cynnal cyfarfod arfarnu rhithwir llwyddiannus

Cynllunio o flaen llaw:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â'r TG, gweler yr adran flaenorol
  • Trefnu amser sy'n gyfleus i bawb gyda'r gwerthusai
  • Sawl diwrnod cyn y cyfarfod rhithwir danfonwch y dyddiad, yr amser a'r gwahoddiad; gan gynnwys y cod deialu mewn a chyfrinair
  • Cadwch Rifau ffôn symudol eich gilydd, a'ch ffonau yn hygyrch-dim ond rhag ofn iddo fethu

Sefydlu:

  • Dechreuwch osod tua 15 munud cyn yr amser cychwyn i ganiatáu ar gyfer sefydlu a trafferthion mnud olaf. Addaswch y golau, yn ddelfrydol peidiwch â chael ffenestr ddisglair y tu ôl i chi a fydd yn rhoi eich wyneb mewn tywyllwch. Sicrhewch fod eich wyneb wedi'i leoli'n briodol yng nghanol y sgrin
  • Mae rhai gwerthuswyr wedi cynnal prawf byr gyda'r gwerthusai ychydig ddyddiau cyn hynny, i wirio'r gwaith
  • Amser a gofod di-dor. Edrychwch yn gyflym ar eich cefndir i wneud yn siŵr nad yw'n tynnu sylw'n ormodol
  • Gwisgwch yn briodol, o leiaf y darnau gweladwy ohonoch!

Y drafodaeth arfarnu rithwir:

  • Derbyniwch na fydd y cyfarfod yn llifo mor naturiol â chyfarfod wyneb yn wyneb ac y gall fod mân anawsterau technegol y gellir eu goresgyn fel arfer. Ond mae'r rhan fwyaf o'r adborth ar arfarniadau rhithwir yn gadarnhaol iawn.
  • Dechreuwch y cyfarfod gyda chyflwyniad, croeso a sgwrs gyffredinol i dorri'r iâ a phrofi'r TG, sain ac ati. "Dwi'n gallu gweld a'ch clywed chi'n iawn, allwch chi fy ngweld a'm clywed?" Efallai mai dyma'r amser i roi cyngor am safle camera, cyfaint ac ati.
  • Ceisiwch edrych i mewn i'r camera yn hytrach nag i'r wyneb ar y sgrin.
  • Rhedwch y gwerthusiad ar hyd y llinellau yr ydych fel arfer yn eu gwneud mewn cyfarfod wyneb yn wyneb, ond byddwch yn barod ar ei gyfer, a derbyniwch y gall fod adegau pan fydd angen i chi gamu y tu allan i'r sgwrs werthuso i gynnal "siarad trwsio neu dechnegol". Gall hyn fod i ofyn i'r meddyg ailadrodd rhywbeth neu addasu ei gamera neu ei feicroffon; ni ddylai hyn achosi gormod o darfu ac mae'r sgwrs yn gallu mynd yn ôl ar y trywydd yn gyflym. Gall crynhoi fod yn ddefnyddiol yn y sefyllfaoedd hyn.
  • Soniwch wrth y gwerthusai y byddwch yn gwneud nodiadau ac yn edrych ar eich nodiadau – felly dydych chi ddim yn edrych fel petaech chi'n tynnu eich sylw.
  • Gall rhai arwyddion iaith corff naturiol gael eu colli mewn cyfarfod rhithwir felly ceisiwch roi sylw ychwanegol i giwiau gweledol a sain. Weithiau, gall y "ciwiau codi" a ddefnyddiwn mewn sgwrs wyneb yn wyneb, er enghraifft "AHA", "iep", "Oce" ddod ar draws fel ymyriad oherwydd y bwlch amser bach. Felly gofalwch beidio â'u defnyddio'n rhy aml. Efallai defnyddio mynegiant wyneb yn fwy i ddangos eich bod yn talu sylw, gwenu, nodio ayyb.
  • Os oes angen i chi dorri ar draws ceisiwch roi eich llaw i fyny i ddangos eich bod eisiau dweud rhywbeth
  • Cwblhau'r drafodaeth werthuso yn eich ffordd arferol a diolch i'r meddyg am eu hamynedd ac efallai gofyn am adborth ar y rhith-arfarniad
  • Yn dilyn y drafodaeth arfarnu, wrth nodi’r arfarniad fel ‘cyfarfod wedi’i gwblhau’ ar MARS, mae gennych bellach yr opsiwn i nodi ei fod yn arfarniad rhithwir a pha blatfform/meddalwedd a ddefnyddiwyd (gweler y cyfarwyddiadau ar y dudalen nesaf – Recordio’r Arfarniad Rhithwir ar MARS).

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau