Beth yw'r manteision o gael rhith-arfarniad?

Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio pwysigrwydd y gallu i uwchsgilio o bell yn gyflym. Gan nad yw arfarniadau wyneb yn wyneb yn bosibl i rai, mae'n gyfle gwych i dechnoleg ddarparu ateb sy’n ddiogel a hawdd cael hyd iddo gan baratoi meddygon a gwerthuswyr ar gyfer ffyrdd newydd o weithio a chadw eu hunain yn ddiogel.

  • Mae’n caniatáu i feddygon gymryd rhan yn y broses arfarnu tra byddan nhw'n cadw mesurau ymbellhau cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19·
  • Does dim pwysau i neilltuo ystafell neu ddod o hyd i le parcio
  • Mae modd cael arfarniad mewn amgylchedd cyfarwydd (ar gyfer yr arfarnwr a'r un sy’n cael ei arfarnu)
  • Mae’n lleihau amser teithio
  • Mae’n lleihau'r ôl troed carbon
  • Mae mwy o amrywiaeth o ddyddiadau ac amseroedd arfarnu (gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd i'r arfarnwr a'r arfarnai
  • Mae modd aildrefnu'r cyfarfod yn gyflym

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau