Canau
Mae camau’r clefyd yn achos canser y geg pan gaiff ei ddiagnosio yn effeithio’n arwyddocaol ar yr opsiynau o ran triniaeth, morbidrwydd a marwoldeb.
Camau Canser y geg
Yng Nghymru rhwng 2011 a 2013 roedd yna 811 achos o ganser y geg wedi eu canfod, ac nid oedd y camau yn hysbys. O’r 600 achos arall roedd 59% (354) ar gam 4 (y cam mwyaf datblygedig).
Mae diagnosio canser y geg yn hwyr wedi cael ei briodoli i nifer o ffactorau (Cyfeiriad Ffactorau Cysylltiedig â Diagnosio Canser y Geg yn Hwyr ) :
Y claf a’r cyhoedd
- Ddim yn adnabod y clefyd oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau’r clefyd
- Methu â mynychu’n brydlon ar gyfer cymorth meddygol, gan ddewis ymagwedd “aros a gweld” ynglŷn â’r symptomau
- Ddim yn ymgysylltu â systemau gofal iechyd oherwydd y gost neu ganfyddiadau bod triniaethau canser y geg yn aneffeithiol
Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
- Ddim yn adnabod canser y geg (yn arbennig camau cynnar y clefyd)
- Atgyfeirio’n hwyr ar gyfer gofal
- Oediadau o ran llwybrau gofal i gleifion ar gyfer diagnosis a thriniaeth
Amcangyfrifir y gall oediadau diagnostig arwain at waethygu’r camau diagnosio mewn hyd at 30% o gleifion.