Diagnosis

Mae Diagnosis Clinigol yn cael ei wneud gyda meini prawf banc ymennydd cymdeithas Clefyd Parkinson. Mae yna dri cham i’r diagnosis:

CAM 1 Bradycinesia, ac un o:

  • Anhyblygedd
  • Cryndod wrth orffwys
  • Ansefydlogrwydd osgo

CAM 2 Mae angen diystyru achosion posibl eraill y symptomau yma.

CAM 3 Wrth i’r cyflwr ddechrau neu esblygu; mae angen tri o blith:

  • Dechreuad unochrog, 
  • Cryndod wrth orffwys,
  • Cynyddu gydag amser,
  • Anghymesuredd symptomau echddygol,
  • Ymateb i lefodopa am o leiaf pum mlynedd,
  • Cwrs clinigol o ddeng mlynedd o leiaf
  • Dyscinesia yn ymddangos o ganlyniad i gymryd gormod o lefodopa

Gellir defnyddio tystiolaeth ategol o ddelweddau radioleg gan ddefnyddio CT neu MRI er mwyn dangos cyflyrau eraill allai efelychu PD (e.e. clefyd fasgwlaidd) neu er mwyn diystyru tiwmorau, pan fo’r diagnosis yn aneglur. Hefyd mae sganiau eraill yn cael eu defnyddio’n fwy eang er mwyn help diagnosis; megis sganiau SPECT a sganiau DAT sydd yn dangos llai o ddefnydd o dopamin wedi’i labelu mewn PD.

Mae diagnosis clinigol o PD yn benodol wael, mae gan Parkinson symptomau sydd yn debyg i gyflyrau niwroddirywiol eraill, ac oherwydd bod pob achos yn unigryw, mae diagnosis yn broblemus, ac yn aml mae angen archwiliadau mynych dros nifer o flynyddoedd gan arbenigwyr cyn y gellir rhoi diagnosis yn hyderus. Mae astudiaethau yn dangos bod Meddygon Teulu yn rhoi diagnosisau positif anghywir a negyddol o PD. Felly, os ydym yn amau PD yn seiliedig ar y meini prawf uchod dylem atgyfeirio’n gyflym a heb driniaeth er mwyn cael cadarnhad arbenigol.

Mae Canllawiau NICE yn nodi y dylai cleifion gael eu gweld gan arbenigwr o fewn 6 wythnos o gael eu hatgyfeirio. Maent hefyd yn nodi y dylai diagnosis gae ei adolygu gan arbenigwr yn rheolaidd (bob 6-12 mis) ac y dylid ei ailystyried os bydd nodweddion annodweddiadol yn datblygu. Dylai cleifion PD gael mynediad at ofal nyrsio arbenigol. Hefyd mae NICE yn nodi y dylai Ffisiotherapi, OT a therapi iaith a lleferydd fod ar gael i gleifion PD. Yn olaf mae’r canllawiau yn nodi y dylid rhoi cyfle i gleifion PD a’u gofalwyr drafod materion diwedd oes gyda gweithwyr gofal iechyd neu liniarol proffesiynol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau