Ystyriaethau eraill

Mae canllawiau NICE 2016 yn argymell ffisiotherapi, yn ogystal â’r Cyfnodolyn Ffisiotherapi Ewropeaidd 2013.

Ynghyd â rheoli PD gyda chyffuriau, mae rôl bwysig ffisiotherapi yn cael ei gydnabod yn gynyddol o ran gwneud y mwyaf o allu gweithredol cleifion PD. Mae hynny yn cael ei gyflawni drwy waith ar drosglwyddo, rheoli osgo, gweithrediad aelodau uwch, cydbwysedd ac atal cwympo, addysg cerddediad, cyflymder, hyd camau, symudiad bôn a braich, symudedd wal y frest a chapasiti hanfodol. Mae hefyd yn defnyddio strategaethau ysgogi, strategaethau symudiadau gwybyddol, ac ymarfer corff er mwyn cynnal neu gynyddu annibyniaeth, diogelwch ac ansawdd bywyd.

Hefyd mae Tai chi wedi dangos addewid o ran helpu gyda chydbwysedd, cerdded ac atal cwympo (8).

OT sydd yn gallu addysgu sgiliau addasol, defnyddio offer a thechnoleg addasol er mwyn helpu i leihau cwympiadau.

Gofal diwedd oes

Nod gofal lliniarol yw gwneud y gorau o ansawdd bywyd i’r unigolyn sydd yn dioddef â’r clefyd a’r bobl sydd o’i gwmpas. Oherwydd bod yr ymateb i driniaeth yn tueddu i amrywio mewn PD, mae’n aml yn anodd penderfynu pryd mae rhywun yn cyrraedd camau olaf eu bywyd a phryd y maent angen gofal lliniarol. Yn ddelfrydol dylai gofal lliniarol ddechrau ar adeg y diagnosis, oherwydd gellir cymhwyso nifer o’r elfennau i bob cam bywyd gyda Parkinson (4).  Rhai materion canolog gofal lliniarol yw:     

  • Gofal yn y gymuned - er y gellir rhoi gofal digonol, gall ymweliadau preswyl gan glinigwyr fod yn fuddiol o ran monitro effeithiau meddyginiaethau, gan alluogi lleihau neu roi’r gorau i roi meddyginiaethau yn brydlon er mwyn lleihau sgil effeithiau cyffuriau e.e. gyda duscinesia.
  • Atal wlserau pwysau drwy reoli mannau pwysau mewn pobl segur, gall ffisiotherapi helpu gyda strategaethau er mwyn cynnal symudiad - gan atal anhyblygrwydd ac anffurfiad ffibraidd.
  • Anawsterau pledren a choluddion - wrth i feddyginiaeth Parkinson ddod yn llai effeithiol, efallai y collir rheolaeth ar y bledren, a gall anawsterau coluddion megis rhwymedd waethygu. 
  • Mae anawsterau llyncu a glafoerio parhaus yn gyffredin, a dylid ceisio mewnbwn  therapi llefaredd ac iaith. Wrth wneud hynny gall helpu i leihau’r risg o niwmonia anadliad.
  • Hwyluso penderfyniadau diwedd oes ar gyfer yr unigolyn yn ogystal â ffrindiau a pherthnasau.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau