Ffyrdd o gyflwyno
Bradycinesia
- Gostyngiad, llawnder ac amlder dilyniannol
- Arafu, anhawster troi yn y gwely, codi o’r baddon
Cryndod
- Garw, yn aml yn unochrog / annodweddiadol ar y cychwyn
- 4-6Hz ‘pill rolling’
- Diagnosis gwahaniaethol: cryndod hanfodol, cryndod fasgwlaidd
Anhyblygedd
- ‘Cog wheeling’
- Anystwythder
- Gellir ei briodoli i ysgwydd wedi fferru etc.
- Poenau cyhyrau
Nodweddion cyfun
- Camau mân wrth gerdded
Mae yna symptomau anechddygol sydd yn gynyddol yn cael eu cydnabod fel rhan o symptomau PD. Mae’r rhain yn cael eu rhannu’n dri chategori;
1. Gwybyddol a seiciatrig
Iselder (40%) - SSRI yw’r dewis cyntaf (ond rhyngweithio prin gyda selegelin/rasegilin) hefyd ystyriwch gwrthiselyddion tricyclic os amharir ar batrwm cysgu. Nortriptyln sydd â’r effeithiau gwrthgolinergaidd isaf, ac felly’r nifer lleiaf o sgil effeithiau efallai.
Seicosis - gallai hynny fod yn gysylltiedig â meddyginiaeth - felly dylech osgoi gwrthseicotyddion nodweddiadol all waethygu’r symptomau echddygol. Gellir rhoi cynnig ar gyffuriau annodweddiadol megis cwetiapin acolansapin.
Gorbryder (20-40%)
Dementia - Gall ddigwydd yn ddiweddarach, ond gall sgil effeithiau cyffuriau achosi problemau cyffelyb. Yn ddilyniannol dylid rhoi’r gorau i roi tricyligau, gwrthgolinergigau, selegelin, agnostigau dopamin. Ystyriwch atalyddion colinesteras - e.e Rivastigmine.
Apathi - gall SSRI helpu, ond nid gyda selegelin
Anhwylderau cysgu
- Hyd at 98% o gleifion gyda Parkinson
- Amharir ar y cylch deffro a chysgu
- Noctwria
- Anhawster troi yn y gwely
- Syndrom coesau aflonydd(RLS)
- Anhunedd
- Anhwylderau cysgu ymddygiadol REM (RBSD)
- Ymosodiadau cwsg
- Teimlo’n gysglyd iawn yn ystod y dydd
Problemau rhywiol
2. Dysawtonomia
Problemau wrin
Rhwymedd (50%)
Mae chwysu’n ddifrifol yn nodweddiadol ac yn aml mae’n gysylltiedig â dysgcinesia.
Hypodensiwn orthostatig (48% o gleifion â PD) gellir ei drin gyda domperidon (10 mg tds) a/neu Fludrocortisone-0.1 mg od.
Teimladau poeth/oer
Dysffagia / glafoerio / lefaredd hyperffroenol o ganlyniad i lai o allu gan y paled meddal i selio’r gwactod ffroenol.
Cyfog / colli pwysau
Problemau anorectaidd
3. Poen a synhwyraidd
Colled arogleuol
Poen - gall hyn ddigwydd mewn hyd at 50% o gleifion â PD Gall cleifion gwyno am boen o fath synhwyraidd neu boen cyhyrysgerbydol sydd yn eilaidd i anhyblygrwydd parkinsonaidd neu hypocinesia.
Paraesthesia