Problemau rheoli cyffredin
Mae problemau rheoli cyffredin yn digwydd mewn perthynas â meddyginiaethau a PD. Dylid ceisio cyngor arbenigol, ond y nodweddion cyffredin y dylai Meddygon Teulu fod yn ymwybodol ohonynt yw;
Mae triniaeth lefodopa hirdymor yn gysylltiedig ag effeithiau echddygol niweidiol sydd yn cyfyngu ar y defnydd a wneir ohono. Y rhain yw amrywiadau echddygol (ffenomena gweithredol-anweithredol, colli effaith, dos yn methu a fferru) a dyscinesia (dyscinesia brig dos, dyscinesia diffasig a dystonia). Cânt eu rheoli orau gan arbenigwr.
Ffenomenon “colli effaith”
Disgrifir blynyddoedd cyntaf therapilefodopa fel y cyfnod mis mêl oherwydd bod cleifion gyda PD yn mwynhau rhyddhad symptomatig parhaus, ond ar ôl nifer o flynyddoedd (gall fod yn 2-5 mlynedd) mae’r lefodpa yn llai effeithiol a bydd symptomau Parkinson yn ailymddangos rhwng dosau - gelwir hynny yn golli effaith. Mae symptomau colli effaith yn amrywio o un claf i’r llall, bydd symptomau echddygol yn dychwelyd i rai e.e. cryndod, anhyblygrwydd, a gall eraill deimlo blinder, chwysu, anniddigrwydd etc. Gall dyddiadur PD fod yn atodiad defnyddiol i feddygon / nyrsys er mwyn adnabod symptomau colli effaith.
Mae nifer o strategaethau ar gael
- Ychwanegu neu addas dos o weithydd dopamin.
- Dosau llai ac amlach o lefodopa.
- Paratoadau lefodopa sy’n rhyddhau’n barhaus (yn ddelfrydol amser gwely). Gall cymryd y ddau fath yn gynnar yn y bore fod yn effeithiol o ran ‘ysgogi’ y system.
- Efallai y bydd cardibopa hylif yn helpu gydag amrywiadau difrifol.
- Gall ychwanegu selegilin neu weithydd dopamin helpu.
- Addasiadau dietegol: cymryd lefodopa 30 munud cyn bwyta, er mwy caniatáu i’r feddyginiaeth ddechrau gweithio cyn i’r protein yn y bwyd arafu faint o lefodopa a amsugnir i lif y gwaed.
- Gellir defnyddio atalyddion COMT (e.e. entacapone) er mwyn ymestyn effaith lefodopa a cynyddu’r amser y mae’n gweithio, lleihau’r dos a gwella ychydig ar nam echddygol ac anabledd.
- Gall ysgogiad ymennydd dwfn helpu i gynyddu amser y cyflwr “gweithredol”.
Amrywiadau ‘gweithredol-anweithredol’ (gall cleifion newid o ddyscinesia difrifol i ansymudedd mewn ychydig funudau)
- Cyfuno lefodopa gyda gweithydd dopamin. Gellir defnyddio cabergolin er mwyn lleihau dos y lefodopa a gwella ychydig ar nam echddygol ac anabledd.
- Llai o ddosau o lefodopa gyda phigiadau neu drwythiad isgroenol apomorffin yn y cyfamser.
- Mathau o lefodopa hylif (mae’n galluogi titradiad agosach o’r dos).
- Diet: byrbrydau bach ac un pryd bwyd mawr fin nos.
Dyscinesia (gall ddigwydd naill ai ar ddechrau neu ar ddiwedd dos, neu weithiau yn ystod brig y dos)
- Ar frig y dos (coreig fel arfer)
- Gostwng pob dos o lefodopa ond ei amlhau fel bod cyfanswm y dos dyddiol yn aros yr un faint.
- Ychwanegu gweithydd dopamin sy’n gweithio am gyfnod hir.
- Gall dyscinesia mynych ymateb i ryddhad araf neu lefodopa hylif.
- Efallai y bydd angen llawdriniaeth.
- Ar ddechrau neu ddiwedd dos.
- Rhowch gynnig ar lefodopa toddadwy cyn prydau bwyd.
- Ychwanegwch atalydd COMT.