Sbectrwm Clefyd Parkinson

Mae’r prif symptomau echddygol gyda’i gilydd yn cael eu galw’n ‘parkinsoniaeth’ neu “syndrom parkinsonaidd”.

Clefyd Parkinson yw’r syndrom parkinsonaidd mwyaf cyffredin. Mae gan 85% o’r achosion o barkinsoniaeth PD idiopathig, nad oes iddo unrhyw achos allanol y gellir ei glustnodi. Mae’r diagnosis a’r mesurau rheoli a drafodir yng ngweddill yr adnodd yma yn cyfeirio at PD Idiopathig.

Mae gan y 15% arall o’r cleifion sydd â pharkinsoniaeth gyflyrau prinnach gwahanol ac fe’u disgrifir yn gryno isod;

Pâr oedrannus yn cerdded gyda gofalwr. Mae’r fenyw yn defnyddio ffrâm zimmer.

Mae Parkinsoniaeth Fasgwlar (arteriosglerotig) yn fath o barkinsoniaeth annodweddiadol pan fo symptomau o fath parkinsonaidd yn cael eu hachosi gan nifer o strociau bach yn y corpws striatwm. Yn aml mae canfyddiadau CT yn dangos clefyd mân bibellau gwaed yn y basal ganglia a thoriadau serebral lluosog. Mae’r mwyafrif o’r symptomau yn yr aelodau isaf e.e. shifflo wrth gymryd camau byr, a chwympiadau. Fel arfer nid yw cryndod yn bresennol.

Achosir gan gyffuriau, gall cyffuriau a ddefnyddir i drin sgitsoffrenia, a chyflyrau seiciatrig eraill h.y. niwroleptigau megis haloperidol, neu gwrthseicotigau annodweddiadol megis closapin, sydd yn atalyddion derbynyddion dopamin, achosi parkinsoniaeth. Mae gwrthfetigau a ddefnyddir yn gyffredin, megis metoclopramid a proclorperisin hefyd yn gallu ei achosi.

Clefyd Corff Lewy yw’r trydydd math mwyaf cyffredin o ddementia, ac yn aml mae’r symptomau echddygol yn gorgyffwrdd â chlefyd Parkinson, ac yn aml drysir rhwng y ddau gyflwr. Yma mae cyrff Lewy yn bresennol yn eang yn y cortecs drwyddo draw ac nid yn bennaf yn y swbstantia nigra fel yn achos Parkinson idiopathig. Mae’r dementia yn cael ei nodweddu gan rithwelediadau tawel anfygythiol, ac mae symptomau echddygol yn nodwedd hwyr.

Syndromau parkinson plws; Mae’r ‘syndromau parkinsoniaeth annodweddiadol’ yma yn grŵp prin sydd yn edrych fel PD ond sydd yn llawer mwy difrifol, sydd yn dangos fflagiau coch. Mae canolrif goroesi yn saith mlynedd yn unig o’i gymharu ag oes arferol yn achos PD. Maent yn cynnwys:

  • Atroffeg systemau lluosog - mae’n ymddangos ar y cychwyn fel parkinsoniaeth ond mae yna fethiant awtonomig cynnar (anymataliaeth ac ansefydlogrwydd osgo) ac atacsi, ni effeithir ar wybyddiaeth.
  • Parlys uwchniwclear cynyddol - wedi ei nodweddu gan barlys edrychiad fertigol, felly ceir anhawster edrych i fyny ac i lawr. Yn aml mae yna gwympo afreolus (lansio eu hunain i’r gwely/cadair). Mae yna golli llwnc a/neu leferydd yn gynnar a dementia llabed talcennol.

Mae Clefyd Parkinson yn effeithio ar 120,000 o bobl yn y DU. Mae'r mynychder yn 1 mewn 500. Yr oedran cymedrig pan mae’n ymddangos yw 65 oed. Mae’r achosion yn cynyddu gydag oedran - 1% yn 60 oed i 4% yn 80 oed. Effeithir ar ychydig mwy o ddynion na merched, ac mae’r gymhareb yn 1.8:1. Nid yw PD Idiopathig yn effeithio ar ddisgwyliad oes, ond mae gan 1/3 iselder cysylltiedig ac mae gan 1/3 amhariad gwybyddol. Y gost flynyddol i’r GIG yw £10,000 y flwyddyn am bob claf. Mae risg cynyddol o PD yn gysylltiedig ag amlygiad i blaladdwyr penodol, ac mae yna lai o risg ymysg ysmygwyr tybaco  a rhai sydd yn defnyddio mwy o gaffein.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau