Cur pen mewn plant dan 12 oed
Mae cur pen yn gyffredin mewn plant gyda hyd at 70% o blant oed ysgol yn dioddef cur pen o leiaf unwaith y flwyddyn, bydd 40% o blant 7 oed yn cael cur pen mynych cronig ac mae’r ffigwr hwnnw yn codi i 70% neu’n uwch erbyn 15 oed. Mae cur pen hyd at oed aeddfedrwydd yn fwy cyffredin mewn bechgyn, ond ar ôl oed aeddfedrwydd mae’r cyffredinolrwydd yn dod i fod yn fwy mynych ymysg merched.
Mae asesu cur pen mewn plant yn debyg iawn i asesu mewn oedolion, ond mae gan achosion y cur pen sbectrwm gwahanol. Gall y rhiant pryderus fod yn ffactor mewn perthynas â phoeni am batholeg tanategol difrifol.
Mae hanes ac archwilio yn ffactorau allweddol o ran penderfynu ar yr aetioleg a phenderfynu ar y dull o reoli yn syth ac yn y tymor canolig. Mae'r hanes yn sefydlu patrwm y cur pen, tra bod archwilio yn cael ei anelu at ddiystyru achos eilaidd.
Pan gyflwynir y cur pen gyntaf, dylai’r hanes gynnwys
- Cyfnod yr hanes o gur pen
- Hyd pob pennod
- Llymder poen - Ystyriwch defnyddio graddfa mesur 'poen gwyneb'. (Defnyddiwch y ddolen yma ar gyfer oedolion neu yma ar gyfer plant.)
- Amledd
- Lleoliad
- Patrwm (faint o’r gloch, gweithgaredd, dim ond ar ddyddiau ysgol etc.)
- ysgogiadau (diddordebau, gweithgaredd, diet, gemau fideo)
- Awra/rhybudd
- Symptomau cysylltiedig
- Lles seicolegol (ffrindiau, bwlio, cynnydd yn yr ysgol, materion yn y cartref)
Gall yr hanes arwain yr archwiliad cychwynnol, ond dylai’r meddyg teulu ystyried:-
- Tymheredd a churiad y galon
- Pwysedd gwaed
- Lefel bywiogrwydd/rhyngweithio
- Tystiolaeth o glefydau feirysol
- Asesu annifyrrwch meningeaidd
- Archwilio a theimlo’r pen am drawma
- Archwiliad niwrolegol priodol -yn cynnwys Ffwndosgopi
- Archwilio’r croen am frechau neu gamffurfiad fasgwlaidd
Gall archwiliad niwrolegol manwl sydd yn canolbwyntio ar gyflwr meddyliol, cydlyniant, atgyrchion tendon dwfn, synhwyraidd, echddygol, symudiad y llygaid ac archwiliad ffwndoscopig, ddiystyru tiwmor ar yr ymennydd mewn 98% o achosion (The Childhood Brain Tumour Consortium, 1991)
Fflagiau coch
- Hanes byr - yn arbennig yn achos y cur pen cyntaf neu’r gwaethaf erioed
- Cur pen mynych yn cael eu disgrifio fel difrifol am 2 wythnos neu fwy
- Newid yng nghymeriad y cur pen -yn arbennig dros gyfnod byr
- Cyflymu o ran amledd/dwyster
- Deffro gyda chur pen, chwydu yn y boreau, yn waeth gyda pheswch neu wrth gwmanu/cyrcydu
- Plant dan 3 oed
- Hanes o salwch systemig
- Dryswch, gostyngiad mewn ymatebolrwydd, newid sydyn mewn personoliaeth, twymyn neu ffitiau
- Cysondeb o ran lleoliad y cur pen mynych
Mesur cur pen cronig
Pan fo’r archwiliad cychwynnol wedi diystyru cyflwr difrifol uniongyrchol gellir mynd ati i archwilio a rheoli yn y tymor canolig. Gall y meddyg teulu ystyried profion gwaed arferol, ond mae’n annhebygol y bydd y rhain yn helpu’r diagnosis. Gall fod yn ddefnyddiol rhoi dyddiadur cur pen i’r plentyn/rhieni a graddfa boen weledol briodol a threfnu apwyntiad dilynol.
Graddfa boen weledol hyd at 8 oed