Achosion Coesau Aflonydd

Gellir rhannu syndrom coesau aflonydd i ddau gategori bras:-

  • Syndrom coesau aflonydd idiopathig (neu sylfaenol)
  • Syndrom coesau aflonydd eilaidd

Yn y grŵp idiopathig (sydd yn cynrychioli’r categori mwyaf o’r ddau) nid oes achos tanategol amlwg. Mae geneteg yn chwarae rhan fawr, ac mae hanes teuluol yn bodoli mewn dros 50% o bobl. Hyd yma nid yw pathoffisioleg y cyflwr wedi cael ei sefydlu, ond tybir bod camweithrediad yn y system dopaminergaidd a phroblemau gyda metabolaeth haearn yn gysylltiedig. Mae haearn yn chwarae rôl allweddol ym metabolaeth dopamin yn yr ymennydd. Y ddamcaniaeth yw bod diffyg haearn yn yr ymennydd yn lleihau gweithgaredd dopamin sydd yn arwain at goesau aflonydd. Gall y lefel annigonol o haearn yma yn yr ymennydd fodoli mewn pobl sydd â lefelau gwaed ymylol normal o haearn.

Mae achosion eilaidd a chysylltiadau wedi eu rhestru isod:-  

Beichiogrwydd – yn arbennig y trydydd tymor
  • Fel arfer mae’n gwella ar ôl esgor
Yn bodoli mewn tua 20% o bobl. Mae gan y rhai yr effeithir arnynt yn ystod beichiogrwydd yn bedwar gwaith mwy tebygol o’i ddatblygu yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Diffyg haearn
  • Mae’n bodoli mewn chwarter y bobl sydd â coesau aflonydd
Gall diffyg haearn achosi neu waethygu symptomau
CKD
  • Cam olaf
Bydd 1/5 o bobl sydd yn dioddef cam olaf methiant yr arennau yn dioddef â choesau aflonydd
Cyffuriau
  • Metoclopramide a prochlorperazine (atalyddion derbynyddion dopamin)
  • Gwrthiselyddion tricyclic
  • Atalyddion aildderbyn serotonin dewisol
  • Atalyddion aildderbyn serotonin noradrenalin
  • Gwrthseicotigau
  • Lithiwm
  • Gwrthhistamin
  • Rhai cyffuriau gwrthepileptig
  • Beta-atalyddion
Pan fo’n briodol a diogel dylid rhoi’r gorau i gymryd y cyffuriau yma. Yna dylid monitro’r symptomau er mwyn cadarnhau achos ac effaith.
Rhai cyflyrau niwrolegol
  • Clefyd Parkinson
  • MS
  • Niwropathi ymylol
  • Siatica
Gall fod yn gysylltiedig
Dietegol
  • Gormod o alcohol, caffein a siocled yn benodol
Cysylltiad yn aneglur
Arall
  • Arthritis rhiwmatoid
  • Diabetes
  • Gordewdra
  • Ffibromyalgia
Mynychder uchel yn y grwpiau yma

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau