Opsiynau o ran Triniaethau

  • Dylai rheoli coesau aflonydd ar y cychwyn gynnwys addysg i’r claf (gweler yr adran adnoddau), ymchwilio i a chywiro (pan fo’n ddichonadwy) achosion eilaidd, rhoi’r gorau i roi meddyginiaethau cysylltiedig os bydd hynny yn bosibl a diogel.

Meddyg yn dal coes isaf claf

  • Rhoi cyngor ar hunangymorth
    • Hylendid cysgu da
    • Cymorth rhoi’r gorau i ysmygu
    • Ymarfer corff cymedrol
    • Lleihau’r defnydd gormodol o gaffein, alcohol a siocled
  • Trafod ffyrdd o leddfu symptomau
    • Ymarferion ymlacio
    • Gwres (pad neu faddon cynnes)
    • Tylino’r aelodau yr effeithir arnynt
    • Symud y meddwl pan yn gorffwys (darllen, gemau i’r meddwl)
    • Cerdded neu ymestyn
  • Ar gyfer pobl â syndrom coesau aflonydd ystyriwch effaith eu symptomau
    • Gellir rheoli symptomau gwan drwy addysgu a’r mesurau hunangymorth a drafodir uchod
    • Efallai y bydd symptomau cymedrol i ddifrifol angen triniaeth gyda chyffuriau

Efallai byd yr algorithm yma yn ddefnyddiol i chi

Triniaethau cyffuriau ar gyfer coesau aflonydd

Pan fyddwch yn penderfynu ar driniaeth gyffuriau i reoli symptomau, mae’n rhaid ystyried nifer o ffactorau. Mae gan y meddyginiaethau a ddefnyddir ar gyfer y cyflwr yma sgil effeithiau difrifol posibl, ac nid yw'r un ohonynt yn addas ar gyfer coesau aflonydd yn ystod beichiogrwydd.

Cyn dechrau triniaeth â  chyffuriau, dylai cleifion fod yn ymwybodol o’r sgileffeithiau (gweler isod), y ffaith y bydd angen iddynt efallai gymryd y cyffur am oes ac y gall eu heffeithiolrwydd wanhau gydag amser.

Opsiwn o ran triniaeth I’w nodi

Gweithydion dopamin

Pramipexole neu Ropinirole neu Rotigotine

  • Dewis cyntaf (neu gabapentin/Pregabalin)
  • Risg o ymestyn symptomau
  • Risg o achosi cwsg yn ystod y dydd
  • Risg o anhwylder rheoli symbyliad (gweler isod)
  • Yn well ar gyfer cleifion sydd ag iselder cydafiachus, gordewdra, sydd yn wynebu risg o gwympo neu sydd â nam gwybyddol
Pregabalin neu Gabapentin
  • Dewis cyntaf (neu weithyddion dopamin)
  • Trwyddedig
  • Yn well ar gyfer cleifion sydd a hanes o anhwylder rheoli symbyliad, gorbryder cydafiachus, poen cronig neu aflonyddwch difrifol ar gwsg.
Opioidau gwan e.e. Codin
  • Gall fod yn ddewis amgen ar gyfer rheoli poen
Hypnotegau Bensodiasepinau neu Z-gyffuriau
  • Efallai bydd angen defnyddio hypnotegau yn ysbeidiol ar gyfer aflonyddu cwsg difrifol
  • Mae dibyniaeth (a cholli effeithiolrwydd) yn ffactor cyfyngu mawr

Anhwylder rheoli symbyliad

Mae anhwylder rheoli symbyliad yn sgil effaith pwysig a rheolaidd agonistiaid dopamin. Effeithir ar hyd at 17% o gleifion â syndrom coesau aflonydd sydd yn cymryd y cyffuriau yma. Mae symptomau yn cynnwys gamblo patholegol, bwyta mewn pyliau, siopa gorfodaethyrrol a hyper-rywioldeb. Cyn dechrau dylai’r claf gael cwnsela a dylai partneriaid, gofalwyr neu aelodau agos o’r teulu fod yn ymwybodol o’r arwyddion. Os yw’n bresennol, dylid rhoi’r gorau i roi gweithydd dopamin neu leihau’r dos i lefel pan fo’r anhwylder rheoli symbyliad yn diflannu.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau