Archwilio ac Ymchwilio
I ddechrau dylai archwilio ac ymchwilio i glaf sydd yn dangos coesau aflonydd posibl geisio cadarnhau’r diagnosis gan ddefnyddio’r meini prawf diagnostig. Ar ôl cadarnhau hynny dylid diystyru achosion eilaidd. Dylid holi’r claf am ei symptomau, meddyginiaeth, a’u defnydd o alcohol, caffein a siocled. Dylid cynnal archwiliad niwrolegol a chyhyrysgerbydol o’r rhannau yr effeithir arnynt, yn ogystal ag asesiad niwrolegol cyffredinol (ar gyfer Parkinson ac MS). Dylid asesu’r cylchrediad er mwyn diystyru clefyd fasgwlar perifferol. Mae’r paramedrau yma yn debygol o fod yn normal mewn syndrom coesau aflonydd idiopathig.
Gellir asesu difrifoldeb y symptomau gan ddefnyddio graddfa hunan raddio symptomau i gleifion yma a ddilyswyd o’r IRLSSG.
Diagnosisau gwahanol i fod yn ymwybodol ohonynt:-
- Cramp - Dylai hanes da wahaniaethu rhwng coesau aflonydd a chramp nosol. Mae cramp y debygol o fod yn unochrog, mae’n dod yn gyflym ac yn cael ei leddfu gan ymestyn, yn hytrach na symudiadau a ailadroddir.
- DVT - Mae’r symptomau yn debygol o fod yn fyr o ran cyfnod ac wedi eu hategu gan arwyddion corfforol o “rubor, dulor, calor a thiwmor” yr arwyddion nodweddiadol o lid (cochni, poen, gwres a chwydd).
- Clefyd fasgwlar perifferol - Mae cloffni yn fwy tebygol o ddigwydd gydag ymarfer corff. Dylai hanes ac asesiad gofalus o'r curiadau perifferol helpu gyda’r asesiad.
- Niwropathi - gall niwropathi ymylol a chywasgiad gwreiddyn y nerfau gydfodoli mewn coesau aflonydd.
- Acathisia - Cyflwr pan fo’r person yn dioddef anniddigrwydd mewnol, maent yn teimlo na allant eistedd yn llonydd ac yn teimlo’r angen i symud nifer o rannau o’u corff (e.e. croesi a datgroesi coesau, plygu breichiau, dyscinesia orowynebol. Yn aml mae’r cyflwr yma yn gysylltiedig â dechrau cymryd (neu gynyddu dos) meddyginiaeth gwrthseicotig neu roi’r gorau i roi gwrthgolinergig.
- Coesau poenus a bysedd traed yn symud - Cyflwr prin, ond nid yw’r cyflwr yma yn achosi ysfa i symud
Mae Crynodeb Gwybodaeth Glinigol NICE yn argymell y canlynol:-
- Nid oes yna ymchwiliadau all gadarnhau diagnosis o syndrom coesau aflonydd (RSL)
- Mesur serwm fferitin ym mhob person ag RLS oherwydd nad yw anemia yn farciwr digon sensitif ar gyfer diffyg haearn, allai achosi neu waethygu RLS.
- Ystyried ymchwiliadau eraill wedi eu harwain gan yr hanes a’r archwiliad (megis gweithrediad arennau, cyfrif gwaed llawn, gweithrediad thyroid, glwcos gwaed, fitamin B12), er mwyn diystyru achosion eilaidd o RLS.
- Ystyried atgyfeirio at glinig cwsg (os ar gael) os ydych yn amau anhwylder cysgu, ac nad oes amheuaeth ynghylch diagnosis RLS. Gall profion megis polysomnograffi helpu i wahaniaethu rhwng RLS a gwir anhwylderau cysgu