Sgiliau trefnu

Mae bod yn arfarnwr yn aml yn ychwanegiad at wythnos waith. Dylai ymrwymiad i arfarnu gael ei gydnabod yn eich amserlen (naill ai fel gweithgarwch SPA neu ymrwymiad sesiynol).

Bydd pob arfarnwr yn trefnu eu hunain a’u harfarniadau mewn ffyrdd ychydig yn wahanol.  Gall yr awgrymiadau canlynol fod yn fuddiol:-

meddyg yn eistedd wrth ddesg yn ysgrifennu nodiadau

  • Canfod a defnyddio amser neilltuedig ar gyfer eich rôl fel arfarnwr
  • Gwasgarwch eich llwyth gwaith drwy gydol y flwyddyn yn ôl eich anghenion CHI
  • Dylech wybod sawl arfarniad y mae disgwyl i chi eu cyflawni ac o fewn pa amserlenni
  • Cytunwch ar ddyddiad, amser a lleoliad mewn da bryd
  • Trefnwch amser nid yn unig ar gyfer y cyfarfod ond hefyd yr amser paratoi ac ysgrifennu ar adeg gwneud y trefniadau
  • Dylech gael gwybodaeth eich arfarnai am ychydig tua mis cyn dyddiad yr arfarniad. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych ddigon o amser i ofyn am ragor o wybodaeth/gwybodaeth wahanol.
  • Hyd yn oed os ydych wedi cwblhau eich paratoadau rhaid ichi gael yr wybodaeth AR ÔL y dyddiad olaf i weld a oes unrhyw beth wedi’i newid neu ei ychwanegu.
  • Paratowch negeseuon e-bost drafft ymlaen llaw y gallwch eu golygu a fydd yn addas ar gyfer pob arfarnai
    • Derbyn arfarniad – mae’n dangos ble a phryd rydych yn gweithio a phwyso arnynt i ddewis dyddiad cyn gynted â phosibl
    • Ymateb i’r cais am ddyddiad sy’n cynnwys yr holl wybodaeth MARS ar DPP, dyddiad olaf ar gyfer lanlwytho deunydd a chyfeiriad lleoliad yr arfarniad, ynghyd â chyfarwyddiadau
    • Ymrwymo i’r arfarniad a gwahodd y meddyg i’w gadarnhau gan gynnwys yr holl gyfarwyddiadau ar sut i ddod o hyd i’w crynodeb a chais i gwblhau’r arolwg
    • Ystyried cysylltu â’r meddyg (dros y ffôn neu e-bost) cyn y cyfarfod, gan ofyn am bynciau yr hoffai’r meddyg eu trafod yn y cyfarfod.

Gall paratoi ar gyfer y drafodaeth arfarnu gynnwys:

  1. Cwblhau colofn gyntaf y crynodeb. Defnyddio’r drydedd golofn i wneud nodiadau neu i’ch atgoffa o gwestiynau i’w gofyn yn yr arfarniad ei hun. Argraffu’r crynodeb, a defnyddio’r gofod gwag i wneud nodiadau yn ystod yr arfarniad.
  2. Nodi o leiaf 3 chofnod yr ydych yn teimlo y dylid eu trafod yn fanwl, ond byddwch yn barod i’w newid os oes gan y meddyg agenda wahanol.
  3. Canfod a nodi eitemau pdp y llynedd ac eitemau ail-ddilysu sydd angen eu cadarnhau
  4. Nodi eitemau pdp posibl ar gyfer y flwyddyn nesaf
  5. Nodi unrhyw gyfyngiadau, cwynion neu ystyriaethau iechyd y gall fod angen ymdrin â hwy mewn modd sensitif.
  6. Nodi eitemau pdp posibl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ceisiwch ganfod “Heriau” a Phwyntiau Gweithredu posibl ac ar ddiwedd y cyfarfod Arfarnu cytunwch ar PDP y flwyddyn ganlynol o’r rhestr o bwyntiau gweithredu a drafodwyd.
    • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar ar gyfer yr arfarniad, gan y bydd hynny’n rhoi amser i chi i drefnu’ch hun, yr ystafell a’r gwaith papur.
    • Gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun ar gyfer strwythur y drafodaeth arfarnu – dylech gynnwys eitemau y mae’n RHAID i chi eu trafod. (Mae’n bosibl na fydd yr arfarniad yn llifo yn ôl eich cynllun ond o leiaf mi fydd gennych wedyn strwythur i ddychwelyd ato)
    • Ar ddiwedd y drafodaeth arfarnu rhowch amserlen realistig i’r meddyg i gwblhau a chyflwyno’r crynodeb, yn unol â’r canllawiau.
    • Gofalwch eich bod wedi neilltuo amser i ysgrifennu’r crynodeb yn fuan ar ôl yr arfarniad
    • Cofiwch mai’r crynodeb yw canlyniad pwysicaf yr arfarniad; dylai fod yn gofnod cywir o drafodaeth arfarnu strwythuredig, gefnogol sy’n seiliedig at baratoadau trylwyr
    • Defnyddiwch borwr gyda gwiriwr sillafu a gramadeg neu copïwch a gludwch i Word a fydd yn gwneud hyn i chi.

    Previous

    Next

    Eich preifatrwydd

    Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

    I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

    Rheoli dewisiadau