EVE – Hybu her mewn arfarniad

Beth yw her?

Her yw un o’r elfennau sy’n galluogi arfarnwr i ychwanegu gwerth at y drafodaeth arfarnu. Mae’n dangos bod yr arfarnwr yn cyfrannu o ddifrif at syniadau’r meddyg ar ddatblygiad a, thrwy ennyn diddordeb, gall sbarduno’r meddyg i edrych yn fwy manwl ar y gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Mae cyflwyno her yn gallu gwneud i feddyg bennu nodau, rhoi dysgu ar waith ac annog datblygu (pellach).

Mae pennu lefel briodol ar gyfer her yn golygu deall lle mae meddyg o ran elfen o’u hymarfer yn ogystal â holi ym mhle yr hoffent fod. Ar unrhyw adeg benodol yng ngyrfa meddyg efallai y bydd angen i lefel yr her fod yn uwch neu’n is. Bydd rhai meddygon yn gallu symbylu eu hunain (h.y. herio’u hunain), ond efallai y bydd eraill “yn gwneud y gwaith a dim mwy” yn ôl eu harfer. Bydd arfarnwr medrus yn gweld sut mae’r meddyg yn delio â’r her a gall ddefnyddio’r drafodaeth arfarnu’n briodol.

Mae syniad o’r hyn sy’n cael ei hyrwyddo yn y cysyniad o her wedi’i seilio ar ddangos ‘gwerth ychwanegol’ y drafodaeth arfarnu. Mae’r ‘gwerth ychwanegol’ hwn gan amlaf yn cael ei adlewyrchu yng ngholofn dde'r crynodeb o’r arfarniad (trafodaeth ac adborth).

Mae paratoi da yn hanfodol i drafodaeth arfarnu effeithiol ac mae hyn i’w weld yn amlwg yn y pecyn ADAM. Dylai gwerthusiad gofalus o dystiolaeth y meddyg arwain at restr o gwestiynau priodol. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r arfarnwr gyflwyno her ar lefel briodol yn yr arfarniad, yn y gobaith y bydd hynny’n arwain at “werth ychwanegol”.

Mae’r cysyniad hwn yn golygu ‘Gwerthuso’r Dystiolaeth’ (EVE), cyn ac yn ystod y drafodaeth.

Yr hyn sy’n dal ar goll o’r hafaliad hwn yw modd i ‘haenu’ neu asesu lefel y datblygiad a ddangosir gan wybodaeth ategol y meddyg. I’r perwyl hwn gellir mabwysiadu / addasu’r “Taxonomy of Bloom”.

 

pyramid Maslow

Yng nghyd-destun trafodaeth arfarnu meddygol neu werthusiad o’r dystiolaeth gall cofnod, wrth gwrs, ddangos elfennau o gyrhaeddiad gwybyddol ar wahanol lefelau yn yr hierarchaeth ond i ddangos hyn yng nghyd-destun y tacsonomi rhoddir enghreifftiau syml o dystiolaeth ar bob lefel.

Cofio (Gwybodaeth). Mae meddyg wedi dod i wybod (e.e. drwy ddarllen) am gyffuriau newydd i drin rhai mathau o ganser, carsinoma arennol neu ganserau’r pancreas, dyweder). Mae’r ffaith eu bod yn bodoli, a’u bod yn cael eu rhagnodi i’w gleifion, yn cyfrif fel gwybodaeth newydd, ond efallai nad yw’r meddyg yn gwybod dim am sut maent yn gweithio nac am eu sgileffeithiau posibl.

Dealltwriaeth (Amgyffred). Mae meddyg wedi bod i ddarlith ar ddosbarth newydd o gyffuriau (e.e. cyffuriau gwrthgeulo newydd). Mae hi’n awr yn deall sut maent yn gweithio, y dangosyddion, y sgileffeithiau ac yn y blaen ac mae’n gweld y posibilrwydd o’u rhagnodi i’w chleifion. Nid oes ganddi brofiad o’u defnydd yn ymarferol ar yr adeg hon.

Cymhwyso. Mae meddyg yn eithaf cyfarwydd â rhagnodi grŵp o gyffuriau, Atalyddion Ace-inhibitors neu Beta Atalyddion ar gyfer pwysedd gwaed uchel, dyweder, ond yn dilyn cyfarfod meddygol defnyddiol ar reoli methiant y galon yn briodol mae hi’n fwy hyderus i’w defnyddio yn y cyd-destun hwn.  Mae hi wedi manteisio ar y cyfle i adolygu ei holl gleifion sydd â’r cyflwr hwn ac wedi sicrhau bod eu triniaeth wedi’i hoptimeiddio pan yn bosibl.

Dadansoddi. Mae meddyg wedi cyfarwyddo’i hun â dadleuon diweddar o blaid ac yn erbyn profion gwaed PSA. Mae hi wedi newid ei barn ynglŷn â pha bryd i archebu’r prawf hwn gyda golwg ar ddysgu newydd ac mae hi’n awr wedi penderfynu cael cydsyniad mwy manwl yn seiliedig ar wybodaeth gan y claf cyn ei archebu. Mae hi’n awr yn fwy hyderus wrth drafod manteision ac anfanteision y cam hwn ac mae’n barod i drafod materion eraill mewn ffordd fwy gwybodus yn ystod yr ymgynghoriad.

Gwerthuso. Datgelodd digwyddiad arwyddocaol diweddar o fewn tîm meddygon teulu nad oedd pob partner yn rheoli cyflwr meddygol cyffredin yn yr un ffordd. Cafodd cyfarfod ei alw i drafod hyn a phenderfynwyd y byddai’r practis yn gyntaf yn cynnal archwiliad o’r holl gleifion a oedd wedi cael diagnosis o’r cyflwr yn y chwe mis diwethaf. Cafodd partner ei ddynodi i edrych ar y canllawiau cyfredol ac i wneud argymhellion i’r grŵp. Cafodd cyfarfod adolygu ei drefnu i astudio’r data archwilio a gasglwyd, i glywed argymhellion y partner a wnaeth yr ymchwilio ac i gael consensws ar reoli’r cyflwr yn y dyfodol.

Creu.  Gwnaeth meddyg ddiagnosis o Arteritis Arleisiol ar sail glinigol yn achos un o’i chleifion. Roedd yn ymwybodol bod canllawiau clir yn ymwneud â threfnu biopsi rhydweli arleisiol ond roedd yn siomedig o ganfod ar ôl ffonio’r ysbyty lleol nad oedd llwybr eglur ynglŷn â sut y gellid trefnu hynny. Ar ôl ymgynghori â’r rhiwmatolegydd ymgynghorol lleol a’r adran llawfeddygaeth fasgwlaidd cysylltodd y meddyg i lunio canllawiau newydd sy’n addas ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a threfnu bod y rhain yn cael eu rhannu â phob practis yn ardal y bwrdd iechyd. 

Byddai adborth gan arfarnwyr profiadol yn awgrymu y byddai’n naturiol iddynt i asesu eu meddygon yn ôl yr haeniadau hyn ond heb fod yn gyfarwydd â’r hierarchaeth ei hun. 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau