Crynodeb
- Mae mwtaniadau niweidiol yn y genynnau BRCA yn ymyrryd â swyddogaeth warchodol y genynnau atal tiwmor, sydd yn golygu bod yr unigolyn yn wynebu mwy o risg o ddatblygu canser y fron a chanserau eraill.
- Mae BRCA1 a BRCA2 yn cael eu hetifeddu mewn modd drechol awtonomaidd.
- Amcangyfrif o risgiau gydol oes
Math o diwmor | Risg i’r boblogaeth | BRCA1 | BRCA2 |
Y fron mewn menywod | 12% | 60-90% | 45-85% |
Ofaraidd | 1.4% | 40-60% | 10-30% |
Y fron mewn gwrywod | 0.1% | 0.1-1% | 5-10% |
Prostad | 10% | 10% | 20-25% |
- Mewn gofal sylfaenol:-
- Peidiwch â mynd ati i chwilio am bobl sydd â hanes teuluol o ganser y fron
- Hanes teuluol gradd un a dau ar gyfer y rhai sydd yn cyflwyno pryderon
- Os yw’n glinigol berthnasol, gofynnwch am hanes teuluol yn achos rhai dros 35 oed sydd yn cymryd OCP cyfun neu sydd yn ystyried HRT.
- Dylai hanes teuluol gradd dau gynnwys perthnasau ar ochr y dad a’r fam
- Ar gyfer penderfyniadau atgyfeirio, byddwch mor gywir â phosibl ynghylch:-
-
-
- Oedran adeg diagnosis
- Lleoliad y tiwmorau
- Canserau lluosog mewn unigolyn (yn cynnwys yn y ddwy fron)
- O linach Iddewig (5-10 gwaith yn fwy tebygol o gario mwtaniad BRCA)
- Mae NICE yn awgrymu y dylid rhoi gwybodaeth i bob claf sydd yn cyflwyno pryderon.
-
- Ar gyfer cwnsela genetig a phrofi pan fo hynny’n briodol, mae gan Wasanaeth Geneteg Canser Cymru gylch gwaith sydd yn cynnwys Cymru gyfan.
- Er mwyn cael mynediad at wasanaeth Geneteg Canser, mae’n rhaid i’r claf fodloni meini prawf atgyfeirio gofynnol
- Yn ddibynnol ar eu cyfrifiad risg unigol, gellir cynnig y canlynol i gleifion:-
- Newid eu rhaglen sgrinio’r fron
- Llawdriniaeth Broffylactig
- Cemoataliaeth
- Profion genetig
- Cyngor ar ffordd o fyw
- Efallai y gofynnir i feddygon teulu yng Nghymru ddechrau cemoproffylacsis gyda Tamocsiffen (merched cyn y menopos) neu Ralocsiffin neu Tamocsiffen (merched ar ôl y menopos). Mae NICE yn cymeradwyo’r therapi yma, ond nid yw wedi ei drwyddedu.
- Mae chemoproffylacsis yn achosi risgiau yn ogystal â manteision a dylai’r rhagnodydd fod yn ymwybodol o’r ffactorau yma.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.