Y dyddiau olaf

Yng Nghymru, pan welir bod pobl wedi cyrraedd dyddiau olaf eu hoes, gellid defnyddio offeryn penderfyniadau gofal. Mae hwn yn seiliedig ar arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Iechyd a Gofal:care of dying adults in the last days of life, 2015. Yn ddelfrydol, dylai staff meddygol a staff nyrsio wneud cyd-asesiad. Mantais defnyddio’r ddogfen hon yw cofnodi pob penderfyniad a wna’r tîm clinigol a blaenoriaethau’r claf fel y cytunwyd arnynt.

 

Dylid bod cofnod clir o sut gwnaed y penderfyniad bod yr unigolyn yn debygol o fod wedi cyrraedd dyddiau olaf ei fywyd. Dylid meddwl a roddwyd ystyriaeth i achosion dirywio y gellir eu gwyrdroi ac a fydd archwiliadau pellach yn cael eu hawgrymu. Dylid bod cyfeiriad penodol at benderfyniadau am ddiod a maeth a sut gellir delio â’r rhain. Mae angen gwneud penderfyniad am a ddylid monitro arwyddion hanfodol, a ddylid gwneud profion gwaed ac a yw apwyntiadau cleifion allanol yn dal yn bwysig. Os oes gan y sawl ddyfais calon wedi’i mewnblannu, gellid trafod sut i ddelio â hyn â’r adran gardioleg. Dylid diweddaru’r feddyginiaeth reolaidd bresennol ar ôl trafod â’r claf. Dylid tynnu sylw’r claf a’u hanwyliaid at y symptomau posibl sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y dyddiau olaf, sef poen, diffyg anadl, cyfog a chwydu, aflonyddwch meddwl, secretiadau anadlol swnllyd a deliriwm. Gellir rhoi presgripsiwn rhagweld am feddyginiaeth gyda chyfarwyddiadau ar sut i’w defnyddio, sut i’w gweinyddu a’r dos, yn ddibynnol ar briodweddau’r claf:

  • Poenladdwr: Diamorffin/Morffin
  • Cyffur gwrth-emetig: Cyclizine
  • Cyffur lleihau gorbryder: Midazolam
  • Cyffur gwrthsecretu: Hyoscine hydrobromide

Os oes ansicrwydd ynglŷn â beth i’w bresgripsiynu a pha ddos i’w roi, dylid bob amser ofyn am gyngor gan nyrs neu ymgynghorydd gofal lliniarol arbenigol.

Mae’n ddefnyddiol holi’r sawl a oes ganddo unrhyw ddymuniadau neu ddewisiadau a gwneud blaengynllun gofal â nhw. Yr hyn sy’n hollbwysig yw gwybod a oes rhag penderfyniad cyfreithiol-rwymol wedi’i wneud i wrthod triniaeth ac a yw’r unigolyn wedi penodi atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles. Dylid trafod dadebru cardio-pwlmonaidd â’r unigolyn a’i deulu. Bydd angen llofnodi ffurflenni os penderfynant wrthod cael eu dadebru a dylid cadw copi yn y man gofal a dylai’r feddygfa gadw copi arall. Dylid rhoi cyfle i bobl drafod unrhyw gefnogaeth ddiwylliannol, ysbrydol neu grefyddol yr hoffent ei chael.

Dylid ystyried yr offer penderfyniadau gofal fel proses a dogfen ddynamig. Dylai pobl sydd wedi cyrraedd dyddiau olaf eu hoes gael eu hadolygu’n ddyddiol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a dylid eu hysbysu o unrhyw newidiadau’n rheolaidd. Mae’r ddogfen hon yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cyfraniad tîm aml-ddisgyblaeth ac elwa ar yr holl bobl a allai gefnogi’r claf.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau