Adnabod cleifion lliniarol yn gynnar
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn diffinio ‘pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes’ fel rhai sy’n debygol o farw yn y 12 mis nesaf; gallai’r rhain gynnwys pobl â chyflyrau datblygedig, datblygol ac na ellir eu gwella, rhai sy’n fregus â chydafiachedd a rhai sydd mewn perygl o farw o argyfwng acíwt sydyn.
Ceir dangosyddion cyffredinol sy’n cyfeirio o bosibl at bobl sy’n gwaelu mwy. Sef:
- Statws perfformiad gwael (hunan ofal cyfyngedig neu mewn cadair neu wely o leiaf 50% o’r diwrnod)
- Yn colli mwy a mwy o bwysau (>10%) dros 6 mis.
- Yn cael eu derbyn i’r ysbyty 2 neu ragor o weithiau mewn 6 mis
- Claf mewn cartref gofal neu un sydd angen gofal cynyddol gartref
Mae’r raddfa eiddilwch clinigol hefyd yn golygu y gellir adnabod a dosbarthu pobl sy’n gwanhau a gwelwyd bod hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chyfraddau marwolaethau. Gellir nodi’r sgôr yn hawdd drwy baru pobl â set o luniau ac mae’n offeryn arall ar gyfer asesu pobl hŷn drwy eu harsylwi’n gyflym mewn cyfarfyddiad clinigol.