Pigiadau Progestin yn Unig

Chwistrell

Cefndir

Mae pigiadau progestin yn unig (POI) yn cael eu defnyddio’n helaeth yn y DU ar ffurf DMPA (depo medroxyprogesterone acetate) a NET-EN (norethisterone enantate); mae’r ddau'n brogestinau sy'n gweithredu am gyfnod hir.  Gellir rhoi DMPA ar ffurf pigiad mewngyhyrol dwfn (Depo-Provera 150mg medroxyprogesterone acetate) neu fel pigiad isgroenol (Sayana Press 104mg medroxyprogesterone acetate).  Prin iawn mae NET-EN yn cael ei ddefnyddio yn y DU.  Fe ddaw ar ffurf pigiad mewngyhyrol (Noristerat 200mg) ac mae ganddo arwyddion trwyddedu cyfyngedig.

Mae POI yn ddull atal cenhedlu hynod effeithiol sy'n gweithredu am gyfnod hir, a’r gyfradd fethu yw tua 0.2% yn ystod y flwyddyn gyntaf y bydd yn cael ei ddefnyddio.  Gyda defnydd nodweddiadol, fodd bynnag, mae’r gyfradd fethu’n codi i tua 6%. Mae dull atal cenhedlu POI, fel CHC, yn atal ofylu.  Mae hefyd yn amharu ar gynhyrchu mwcws serfigol a lluosogiad endometriaidd.

Am nad yw NET-EN yn cael ei ddefnyddio’n aml yn y DU, mae’r canllawiau canlynol, sy'n seiliedig ar ganllawiau’r FSRH, yn berthnasol i DMPA (oni nodir).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau