FSRH ac UKMEC
Ar ddechrau’r 1970au, fe ddaeth y DU y wlad gyntaf yn y byd i gynnig dulliau atal cenhedlu yn rhad ac am ddim, dan y GIG. Sefydlwyd panel cyfarwyddyd cenedlaethol, sef y National Association of Family Planning Doctors (NAFPD), i gynrychioli’r meddygon sy’n gweithio yn y maes ac i rannu arferion da. Yn 1993, ymunodd NAFPD â'r JCC i ffurfio’r Faculty of Family Planning and Reproductive Healthcare, fel cyfadran i'r (ond a oedd yn cael ei rheoli’n annibynnol) Royal College of Obstetricians and Gynaecologists. Yn 2007, tra’n cydnabod pwysigrwydd gofal iechyd ac iechyd rhywiol dynion, cafodd y gyfadran ei hail-lansio fel y Faculty of Sexual Health and Reproductive Healthcare (FSRH), ac felly y mae hyd heddiw.
Fel rhan o waith y FSRH, mae’n cynnig canllawiau ar arferion o safon uchel ym maes gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol, ac maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim ar ei wefan.
Mae Meini Prawf Cymhwystra Meddygol y DU ar gyfer Defnyddio Dulliau Atal Cenhedlu (UKMEC) yn cynnig canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch presgripsiynu dulliau atal cenhedlu yn ddiogel. Cafodd y meini prawf eu haddasu'n wreiddiol o Feini Prawf Cymhwystra Meddygol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Defnyddio Dulliau Atal Cenhedlu (WHOMEC, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1996), a chawsant eu lansio am y tro cyntaf gan Uned Effeithlonrwydd Clinigol y FSRH yn 2006. Mae’r rhifyn diweddaraf, UKMEC 2016, yn cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr dulliau atal cenhedlu ledled y DU er mwyn helpu i arwain dewisiadau dulliau atal cenhedlu. Gellir ei weld ar wefan FSRH. Mae UKMEC wedi’i rannu’n bedwar categori:
- UKMEC 1 defnydd anghyfyngedig
- UKMEC 2 mae'r manteision yn fwy na'r risgiau i iechyd y fenyw
- UKMEC 3 mae’r risgiau i iechyd yn fwy na’r manteision
- UKMEC 4 risg annerbyniol i iechyd
Yn gyffredinol, os yw dull atal cenhedlu yn UKMEC 3 neu 4 y peth gorau yw ei osgoi.
Mae cymhwystra meddygol yn ffactor pwysig wrth bresgripsiynu dulliau atal cenhedlu addas, ond mae nifer o ffactorau eraill i’r fenyw eu hystyried, gan gynnwys sgil-effeithiau, effeithiolrwydd a pha mor hwylus yw ei ddefnyddio/cael gafael arno. Dros y tudalennau nesaf byddwn yn edrych ar bob dull sydd ar gael er mwyn rhoi trosolwg i’r darparwr gofal iechyd o fanteision ac anfanteision pob un.