Pilsen Progestin yn Unig

Mae’r POPau sydd ar gael yn y DU yn cynnwys desogestrel (DSG) 75μg (Cerazette, Cerelle), norethisterone (NET) 350μg (Micronor, Noriday), a neu levonorgestrel (LNG) 30μg (NorgestonR). Os yw’n cael ei ddefnyddio’n iawn, mae POP 99% yn effeithiol. O bosibl mae DSG yn fwy effeithiol am ei fod yn cael mwy o effaith ar atal ofyliad, ac mae cyfnod methu pilsen hirach.
Cefndir
Pilsen a gymerir yn ddyddiol yw'r Bilsen Progestin yn Unig (POP), a hynny heb egwyl. Mae’n gweithio drwy dewychu’r mwcws serfigol, teneuo’r endometriwm a lleihau symudoldeb y cilia yn y tiwbiau ffalopaidd. Yn aml mae’n atal ofyliad (yn enwedig DSG, hyd at 97% yn cael ei atal, o’i gymharu â 60% ar gyfer y POPau eraill).