Adnabod cleifion lliniarol yn gynnar 2

Gellir hefyd asesu dangosyddion penodol clefydau, sef:

Clefyd y galon

  • Methiant y galon III/IV NYHA, clefyd coronaidd difrifol y rhydwelïau, clefyd difrifol y falfiau
  • Y claf yn fyr ei wynt neu â phoen yn ei frest pan mae’n gorffwys neu wrth symud ychydig iawn
  • Symptomau parhaus er gwaethaf y therapi optimaidd
  • Pwysau gwaed systolig <100mmHg neu Bwls >100
  • Nam arennol (eGFR <30ml/mun)
  • Cachecsia cardiaidd
  • >1 episod acíwt pan fo angen therapi IV yn y 6 mis diwethaf
  • Clefyd anadlol
    • Rhwystr difrifol yn y llwybrau anadlu (FEV1 <30%) neu ddiffyg cyfyngol (cyfaint anadlol <60%)
    • Yn bodloni’r meini prawf ar gyfer therapi ocsigen hirdymor
    • Yn fyr ei wynt wrth orffwys neu o symud ychydig iawn rhwng gwaethygiadau
    • Symptomau parhaus mynych er gwaethaf y therapi optimaidd
    • Methiant symptomatig ar ochr dde’r galon
    • Mynegai màs y corff isel
    • >3 derbyniadau brys am waethygiadau heintiol neu fethiant anadlol yn y flwyddyn diwethaf
  • Clefyd yr afu/iau
    • Sirosis datblygedig gyda
      • asgites anhydrin
      • enseffalopathi hepatig
      • syndrom hepatarennol
      • peritonitis bacterol
      • gwaedu fariceal rheolaidd
      • Albwmin serwm <25g/L ac amser prothrombin uwch/INR hir
      • Carsinoma hepatogellol
      • Ddim yn ffit am drawsblaniad afu/iau
    • Clefyd yr arenau
      • Clefyd cronig yr arenau Cyfnod 4 neu 5 (eGFR<30ml/mun)
      • Dull rheoli arennol ceidwadol oherwydd aml-afiachedd
      • Symptomau parhaus a/neu dibyniaeth gynyddol a dirywiad ar therapi adnewyddu arennol
      • Ddim yn dechrau dialysis yn dilyn trawsblaniad arennau aflwyddiannus
      • Methiant yr arennau neu gyflwr newydd sy’n cyfyngu ar fywyd fel cymhlethdod oherwydd cyflwr arall
    • Clefyd niwrolegol
      • Symptomau cymhleth ag anhawster eu rheoli
      • Problemau lleferydd cynyddol a phroblemau cyfathrebu a/neu dysffasia
      • Niwmonia anadlol rheolaidd neu fethiant anadlol
      • Dirywiad cynyddol mewn gweithrediad corfforol a/neu wybyddol er gwaethaf y therapi optimaidd
    • Dementia
      • Yn methu â gwisgo, cerdded na bwyta heb gymorth ac yn methu â chyfathrebu’n ystyrlon
      • Dysffagia sy’n gwaethygu, angen diet meddal neu fwyd wedi’i falu’n fân neu atchwanegiadau
      • Heintiau rheolaidd
      • Anymataliaeth wrinol ac ysgarthol
    • Canser
      • Canser metastatig â chydafiachedd
      • Symptomau rheolaidd er gwaethaf yr oncoleg lliniarol optimaidd neu’n rhy wan i gael triniaeth

 

Y rhesymeg dros ofal lliniarol cynnar yw hybu dull cyfannol ac o ansawdd da o ddelio â’r claf a’u teulu. Y claf fel arfer fydd yn penderfynu beth yw’r blaenoriaethau. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o wahanol daflwybrau clefydau (h.y. dirywiad corfforol mewn pobl â salwch datblygedig).

 

Mae’r diagram yn darlunio’r rhain yn dda. Dylech gofio bod gan bobl anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol.

Ar gyfer pobl sy’n delio â’r ‘taflwybr canser cyflym’, maent yn werthfawrogol iawn os byddwch yn cydnabod eu pryder o’r dechrau.

Ar gyfer pobl â ‘thaflwybr system organau’, mae’n bosibl y byddai ymyriadau cynnar sy’n rhoi sylw i’r agweddau cymdeithasol a seicolegol ar eu salwch fod yn effeithiol.

Bydd rhai ar y taflwybr eiddilwch angen cymorth cymdeithasol, seicolegol ac ysbrydol a meithrin ymdeimlad o bwrpas oherwydd y bydd pobl fel arfer yn ofni colli eu hannibyniaeth.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau