Sefyllfaoedd penodol

Mae gan Corticosteroids sawl defnydd mewn gofal lliniarol. Oherwydd y sgil-effeithiau posibl, dylid rhoi’r dos lleiaf i reoli’r symptom. Dexamethasone yw’r steroid dewisol gan nad yw’n achosi i’r corff ddargadw cymaint o ddŵr   Yn ddibynnol ar yr arwyddion, argymhellir gwahanol ddosys:

  • Poen edema sy’n gysylltiedig ag anorecsia/gwendid/tiwmor / neu i wella lles - 2-4mg y dydd
  • Poen cywasgu nerfau/poen amwisg yr iau/cyfog/rhwystr yn y perfedd - 4-8mg y dydd
  • Pwysedd mewngreuanol uchel/rhwystr yn y fena cafa uchaf/cywasgiad milain ar linyn y cefn - 12-16mg y dydd

Dylid rhoi steroidau yn y bore rhag iddynt gadw’r claf ar ddihun yn y nos. Dylid ystyried a ddylid presgripsiynu amddiffyniad gastrig. Dylid cwtogi ar y steroidau yn araf bob 5-7 diwrnod pan fo’n briodol.

 

Mae maeth bob amser yn achosi pryder i gleifion lliniarol a’u hanwyliaid. Mae colli chwant bwyd yn symptom cyffredin iawn mewn pobl sydd â chyflyrau datblygol nad oes gwella arnynt. Dylid rhoi cymaint â phosibl o galorïau iddynt ac mae’n bosibl y bydd angen defnyddio atchwanegiadau maeth a diodydd egni uchel eu calorïau. Mae’n bosibl y bydd angen eu cyfeirio at ddietegydd. Fel y dywedwyd eisoes, gellir defnyddio dexamethasone i godi chwant bwyd. Os nad oes dim ymateb ar ôl 7-10 diwrnod, dylid stopio’r rhain. Yn y claf sydd ar ddarfod, gall baich ei or-fwydo neu ei or-hydradu yn aml fod yn fwy na’r manteision oherwydd fe allai’r cleifion gynhyrchu mwy o droeth neu fwy o secretiadau bronciol. Mae gofal y geg yn aml yn fwy defnyddiol i helpu â cheg sych. Yn aml, bydd angen atgoffa a thawelu meddwl teuluoedd ynglŷn â hyn yn gyson.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau