Cymunedau trugarog

Rhoddir pwyslais mawr ar geisio cadw pobl yn y gymuned a cheisio osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty, yn enwedig i bobl sy’n lliniarol. Yn anffodus, ceir pwysau cynyddol mewn sefydliadu acíwt yn awr, felly mae pobl yn gorfod aros am amser hir cyn cael sylw. Mae salwch lliniarol fel arfer yn arwain at flinder ac anawsterau symud, gan achosi llai o gysylltiad cymdeithasol, unigedd a cholli pwrpas a llesiant. Gall meithrin perthnasoedd cryf a defnyddio adnoddau yn y gymuned leol fod o fudd i gleifion a’u teuluoedd. Mae cymunedau trugarog yn cydnabod bod gofalu am bobl mewn profedigaeth ac argyfwng nid yn unig yn dasg i’r gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, mae gan bawb ran i’w chwarae.

Dengys tystiolaeth mai cyswllt cymdeithasol a rhyng-gysylltedd yw’r un ffactor pwysicaf i gadw’r boblogaeth yn hapus ac yn iach (yn enwedig â chysylltiadau wyneb-wrth-wyneb). Mae’r graff uchod yn dangos bod hyn, o ran ymyrraeth, yn bwysicach na gweithgaredd corfforol, rhoi’r gorau i ysmygu ac yfed alcohol er mwyn cadw pobl yn iach. Y syniad y tu ôl i gymunedau trugarog yw creu adnodd cymunedol, ond cyplysu â rhwydweithiau sydd eisoes wedi’u sefydlu. Y syniad yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r adnoddau lleol sydd ar gael o amgylch eich meddygfa a llywio pobl tuag atynt.

 

 

 

O fewn hierarchaeth gofal sylfaenol, gofal arbenigol a gweithredu dinesig, mae gan gymunedau trugarog a’u gweithredoedd eu lle eu hunain. Mae’r diagram isod yn darlunio’r canlyniadau positif a negyddol penodol.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau