Awgrymiadau a Chyngor

Yng Nghymru rydym wedi datblygu’r broses arfarnu dros gyfnod o 10 mlynedd. Rydym bob amser yn ystyried cyfraniad pwysig arfarnu mewn perthynas ag ail-ddilysu, ond nid ydym fyth yn colli ffocws ar arfarnu fel profiad ffurfiannol a datblygiadol ar gyfer meddygon, y mae materion ail-ddilysu yn rhan fechan yn unig ohono.

  • Os ydych yn recordio archwiliad, astudiaeth achos neu SEA ar y wefan arfarnu, defnyddiwch y templedi cywir ar MARS.
  • Gallwch gwblhau adborth eich claf/cydweithiwr ar unrhyw adeg yn eich cylch ail-ddilysu ar Orbit360. Mae angen aros am gymeradwyaeth gan eich Bwrdd Iechyd, ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf a bennwyd. Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau'r adborth yn ystod canol eich cylch ailddilysu er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o amser i drafod hyn mewn arfarniad cyn ailddilysu.
  • Gallwch lenwi adborth eich claf a'ch cydweithiwr ar adegau gwahanol os dymunwch- mae Orbit360 yn eich galluogi i wneud un adborth ar y tro ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud y ddau beth ar yr un pryd os oes modd.
  • Mae 5 fformat y gallwch eu defnyddio i lawrlwytho eich ffurflenni cleifion- rydym yn cynnig Cymraeg, Saesneg, print mawr Cymraeg, print mawr Saesneg a chodau ar-lein yn unig. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfuniad o ffurflenni adborth papur a chodau ar-lein.
  • Os nad ydych wedi cael unrhyw gwynion na chanmoliaeth yn ystod y flwyddyn sy'n arwain at werthusiad, mae'n werth gwneud cofnod sy'n dangos eich ymwybyddiaeth o'ch proses cwynion ymarfer. Os ydych yn gwneud unrhyw beth nad yw'n ymarfer cyffredinol prif ffrwd, dylech ddarllen am Arfarnu Ymarfer Cyfan (WPA) ar wefan Ail-ddilysu Cymru.

Dolenni Defnyddiol

Gwefan GP MARS

MARS i bob doctor arall

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau