Mae System Arfarnu ac Ail-ddilysu Meddygol (MARS)
Yn system Gymru gyfan a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd
Cymru ac fe'i hariannir gan Lywodraeth Cymru er mwyn hwyluso’r gwaith o arfarnu ac ail-ddilysu meddygon. Ar hyn o bryd mae yna ddwy wefan MARS, un ar gyfer meddygon teulu ac un ar gyfer meddygon mewn ysbytai/gofal eilaidd .
Bydd angen i bob meddyg sydd â Chysylltiad Rhagnodedig â Swyddog Cyfrifol (RO) yng Nghymru ddefnyddio MARS ar gyfer eu harfarniad blynyddol. Mae gwahanol grwpiau defnyddwyr yn chwarae rôl yn y broses o arfarnu ac ail-ddilysu meddygon yn cynnwys yr Uned Cymorth Ail-ddilysu, Swyddogion Cyfrifol, Rheolwyr Ail-ddilysu, Cydlynwyr Arfarnu ac Arfarnwyr. Mae MARS yn galluogi rhannu gwybodaeth yn ddidrafferth, fel sy’n briodol, rhwng y grwpiau yma er mwyn galluogi i argymhelliad ail-ddilysu gael ei wneud. Gweler ein cynllun mynediad i gael mwy o wybodaeth.