Allan o Oriau (OOH)

O dan y trefniadau presennol mae rhai meddygon wedi dewis peidio â pherfformio dyletswyddau Allan o Oriau (OOH) o gwbl, ac mae rhai yn perfformio cymysgedd o ddyletswyddau yn ystod oriau a sesiynau OOH. Mae yna nifer fechan o feddygon sydd naill ai’n perfformio dyletswyddau OOH yn gyfan gwbl neu yn bennaf. Os ydych yn perfformio gwaith OOH bydd angen trafod hynny gyda’ch arfarnwr a dylid rhestru hynny o dan “fy ngweithgareddau” ar safle MARS.

Mae adran yma yr adnodd cyn cynnwys deunydd cymorth mewn perthynas â’r meysydd ymarfer canlynol.

Maes 1 - Gwybodaeth, sgiliau a pherfformiad
Arferion rhagnodi, derbyniadau mewn achosion brys, Cofnodion meddygol, Myfyrio ar eich dysgu mewn gofal OOH, Myfyrio ar eich dysgu - anghenion cleifion na fodlonwyd ac anghenion dysgu’r meddyg

Maes 2 - Diogelwch ac Ansawdd
Dadansoddiad o ddigwyddiadau arwyddocaol, gofal brys

Maes 3 - cyfathrebu, partneriaeth a gwaith tîm
Sgiliau cyfathrebu, dadansoddi llythyrau atgyfeirio - cynnwys, Addysgu a Hyfforddiant (goruchwylwyr addysgol OOH)

Maes 4 - Cynnal ymddiriedaeth
Iechyd

Enghraifft - arferion rhagnodi

Casglwch 20 o ymgynghoriadau OOH yn olynol pan oedd rhagnodi yn fater - gallai hynny fod yn benderfyniad pwrpasol i beidio â rhagnodi yn ogystal â rhoi rhagnodiad. Gallai eich myfyrdodau gynnwys ffactorau sydd yn golygu bod rhagnodi OOH yn  anodd e.e. analgesia neu dawelyddion cryf.

Gallwch lawrlwytho’r templed gwag yma

Gallech ddefnyddio’r ymarfer hwn fel profiad dysgu neu ymarferiad gwella ansawdd, pryd y gallech ddangos newid drwy gynnal ail gylch.

Gallai enghraifft a gwblhawyd edrych fel hyn:-

Rhyw Oedran Diagnosis Dewis rhagnodi Alergeddau a gofnodwyd Pam y dewisoch y camau yma
F 3 Dolur gwddf Penisilin V 125mg qid y Roedd y plentyn yn sâl, peth casgliad ar y tonsils
M 37 Poen cefn Co-codamol 8-500 n Poen cefn acíwt ar ôl codi, analgesia yn unig
M 65 Diabetes gyda salwch twymynol acíwt a siwgr gwaed o 23 Amoxycillin 250mg a dos bolws o Actrapid (10 uned) y Anwyd drwy’r wythnos ac erbyn hyn yn pesychu - gwrthfiotigau yn absenoldeb arwyddion yn y frest - dim cetonau yn yr wrin - 10 uned o Actrapid, 10% yn unig o’r dos dyddiol arferol
F 44 iselder ac anhunedd Rhoddwyd diazepam 5 mg un tabled, i weld ei meddyg ei hun n Gorbryderus a ddim yn gallu aros yn llonydd. Pwl blaenorol o iselder Dim triniaeth ar hyn o bryd
M 6 Dolur gwddf Penisilin V 125mg qid y mam wedi pwyso am wrthfiotigau - twymyn ar y plentyn
F 60 Chwydu a dolur rhydd am 4 diwrnod Buccastem a loperamide y Claf mewn trallod, dim tystiolaeth o dwymyn ond ddim yn gallu goddef hyd yn oed hylifau. Penderfynu rhagnodi Buccastem a dan bwysau i roi loperamide, ac “wedi eu cael o’r blaen”
F 32 Peswch Cyngor yn unig y Roedd gan y claf hanes o 3 diwrnod o beswch oedd yn cynhyrchu dim, brest yn glir, cyngor yn unig
M 65 Poen yn y frest Dim rhagnodiad y Pyliau byr o angina posibl, claf diabetig a aspirin fel ataliaeth sylfaenol. Dim hanes blaenorol, iach a sefydlog erbyn hyn. Cyngor i weld ei feddyg ei hun i gael gwerthusiad ychwanegol - adalw.
F 4 Otitis media Amoxycillin 125mg tid y Plentyn mewn poen gyda thwymyn, y fam eisiau triniaeth
M 27 Abses deintyddol Metronidazole 400mg tid y Fel arfer byddai wedi cael ei frysbennu i’r deintydd, ond roedd yn ymwelydd achlysurol yn y ganolfan
F 19 Gofyn am bilsen bore wedyn (Sadwrn am) Levonelle 2 y Rhagnodiad priodol - OOH priodol oherwydd 24awr ers y digwyddiad - hefyd dywedwyd wrthi am gymryd y ddwy ar unwaith - dysgais hynny ar fy nghwrs atal cenhedlu diweddar
F 17 Gwaedu PV a phoen Ponstan Forte y Dim tystiolaeth o’r achos heintus, yn gwadu gweithgaredd rhywiol, fel arfer yn cael mislif poenus
M 12 Asthma Salbwtamol wedi’i nebiwleiddio yna ychwanegu beclomethason - i ddechrau 250mg bd Mesurydd llif brig y Claf ar salbwtamol yn unig - erioed wedi cael ymosodiad o’r blaen. Nebiwleiddiwyd oherwydd roedd yn ofnus iawn, adferiad llawn, ychwanegu steroid - cyfarwyddiadau ysgrifenedig 
F 2 Trwyn yn rhedeg a pheswch Amoxycillin 125mg tid y Wedi cael symptomau am 3 diwrnod a gollyngiad ffroenol crawnllyd - y frest yn glir
F 56 Gorbryder ac iselder Diazepam 2mg (20 only given) n Roedd y ddynes yma yn orbryderus iawn, felly rhagnodwyd diazepam tymor byr yn ychwanegol at ei gwrthiselyddion a ragnododd ei meddyg teulu ei hun ddoe, a ddylai helpu yn yr hirdymor.
M 52 Poen cefn Co-dydramol 2 qid prn (50 tab) n Poen acíwt ar gronig, yn ymddangos ei fod o darddiad arthritig
M 63 Poen yn y ceilliau Ciproxin 250mg bd am bythefnos y Ymddangos bod ganddo epidymo-orchitis – wedi cael triniaeth a chyngor i weld ei feddyg teulu ei hun ymhen 3-4 diwrnod
F 4 Dolur gwddf a llygaid coch Diferion llygaid Chloramphenicol, amoxicillin 125mg tid y Llygaid coch gludiog a gwddf coch
M 2 Dolur gwddf Amoxicillin 125mg tid y Gwddf coch gan frawd y claf uchod
F 78 Peswch Amoxicillin 250mg tid y Y frest yn glir ond yn sâl

Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn

Roeddwn wedi synnu fy mod wedi rhagnodi 10 cwrs o wrthfiotigau yn yr 20 achos yma. O edrych ar fy nodiadau achos, mae’n ymddangos bod rhai o’r rhagnodiadau yma yn ddiangen mae’n debyg. Rwyf yn gwybod na fyddwn yn fy mhractis fy hun (yn ystod oriau) wedi rhagnodi cymaint, efallai mai cymryd yr opsiwn hawsaf oedd hynny. Hefyd defnyddiais bensodiasepinau ddwywaith, rwyf yn llawer mwy llym yn ystod oriau.

Rhoddwyd loperamid yn amhriodol i’r claf hŷn  â D&V, ac roedd hynny yn gyfan gwbl o ganlyniad i bwysau gan y claf.

Roeddwn yn tueddu i ofyn am statws alergedd wrth ragnodi gwrthfiotigau

Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud

Gallaf weld o’r ymgynghoriadau yma ei bod yn haws fy mherswadio i ragnodi y tu allan i oriau mae’n debyg. Byddaf yn ymdrechu’n benodol i stopio hynny.

Byddaf yn darllen y protocol ar gyfer defnyddio nebiwleiddiwr ar gyfer plant a’u hôl-ofal, oherwydd nid oeddwn yn  gwbl sicr beth i’w neud yn yr achos hwnnw.

Mae angen i mi wirio statws alergedd mewn perthynas â phob penderfyniad rhagnodi.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau