Cyngor gan Arfarnwyr

  • Nid oes angen cofnodi eich holl weithgareddau CPD; dewiswch enghreifftiau sydd yn dangos eich bod yn bodloni eich gofynion GMC neu y byddech yn dymuno eu trafod gyda’ch Arfarnwr.
  • Nid oes angen i chi gyfrif credydau dysgu. Mae gofynion y GMC yn canolbwyntio ar ddeilliannau ac allbynnau gweithgaredd addysgol a datblygiad.
  • Sicrhewch eich bod wedi adolygu eitemau PDP y llynedd a’u bod yn gynwysedig. Ar MARS bydd angen i chi nodi a ydych wedi  bodloni’r eitemau PDP blaenorol yn llawn, yn rhannol neu ddim o gwbl, cyn yr arfarniad.
  • Dylai Meddygon Teulu newydd ychwanegu eu PDP Hyfforddai i’r adran ‘PDP dyheadol’ ar MARS i’w Harfarnwr nesaf ei adolygu.
  • Clustnodi gwybodaeth ategol ar gyfer ail-ddilysu
  • Nid oes angen disgrifio popeth a drafodir mewn cyfarfodydd etc. Defnyddiwch enghreifftiau i ddangos ffocws ar fyfyrdod dysgu a sut y bydd hynny yn effeithio ar ymarfer.
  • Dylech gynnwys digon o wybodaeth fel y gall eich Arfarnwr neud synnwyr o’ch cofnod, a deall beth ydych wedi ei wneud; ansawdd yn hytrach na swm!
  • Ceisiwch osgoi ailadrodd yr un pethau o un flwyddyn i’r llall, anelwch am amrywiaeth yn ystod y cylch 5 mlynedd.
  • Ceisiwch gynnwys o leiaf un cofnod ym mhob maes er mwyn sicrhau eich bod yn ymdrin â holl briodoleddau Ymarfer Meddygol Da.
  • Sicrhewch bod tystiolaeth mewn perthynas ag unrhyw rolau ychwanegol neu rolau arweiniol yn cael eu cynnwys yn ystod eich cylch ail-ddilysu 5 mlynedd.
  • Peidiwch â disgwyl trafod pob eitem yn eich ffolder, bydd eitemau dethol yn cael eu trafod yn fanwl.
  • Hysbyswch eich Arfarnwr am eich dyddiad ail-ddilysu, mae hwnnw i’w gael ar MARS.
  • Rhowch fanylion am unrhyw gwynion a dderbyniwyd neu a ddatryswyd yn ystod y cyfnod arfarnu.
  • Darllenwch y datganiadau yn ofalus  a’u cwblhau yn flynyddol. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ddatganiad sicrhewch eich bod yn cofnodi’r manylion perthnasol yn y maes perthnasol.
  • Gwiriwch gywirdeb y crynodeb cyn cytuno arno - mae’n broses na ellir ei dadwneud.
  • Cyfeiriwch yn ôl at eich crynodeb a’r PDP drwy gydol y flwyddyn.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau