Tystiolaeth o ymarfer

Beth sydd yn briodol?

Dyluniwyd yr adran tystiolaeth o ymarfer er mwyn helpu meddygon i baratoi tystiolaeth o sut mae eu hymarfer yn gweithio. Mae arfarnu yn briodol ddigon yn canolbwyntio ar ddatblygiad unigol. Ond mae’r ffordd y mae’r datblygiad hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn y tîm yn berthnasol hefyd, ac mae’n berthnasol bod datblygiad yn digwydd yn unol â blaenoriaethau’r tîm. Gall hefyd eich helpu i ddangos eich rôl mewn amgylchedd sydd yn un ddiogel ac effeithiol o ran darparu gofal i gleifion (gofyniad llywodraethu clinigol).

Mae templedi gwella ansawdd eisoes ar gael yn y wefan arfarnu o dan y tab Templed Ail-ddilysu pan roddir gwybodaeth o dan ‘Fy Ngwybodaeth Arfarnu’ ac ni fydd hynny yn cael ei ddyblygu yma. Mae yna bedwar gweithgaredd unigol yn hytrach na gweithgaredd practis, ac fe’u rhestrir isod:

  • Archwilio/Monitro rhaglen addysgu
  • Adolygiad Achos neu drafodaeth
  • Archwiliad Clinigol
  • Gwerthuso Effaith Menter Iechyd
  • Adolygu Deilliannau Clinigol
  • Dadansoddi digwyddiadau arwyddocaol

Ond wrth ystyried tystiolaeth o ymarfer, bydd y templedi a darperir yn y pecyn cymorth yma yn rhoi strwythur i’r meddyg ar gyfer darparu tystiolaeth a’r sefyllfa gyffredin pan fyddech efallai yn ymwneud â gwaith pobl eraill, efallai mewn perthynas â’r gweithgareddau un i bump uchod, neu mewn gweithgareddau eraill yn y practis yr ydych yn gweithio ynddo fel aelod o dîm wrth gefnogi cydweithiwr arall. Yn y sefyllfaoedd yma, nid chi fydd yr unigolyn arweiniol ar gyfer y gweithgaredd, ond byddwch er hynny yn chwarae rôl arwyddocaol, a dylai hynny gael ei gydnabod yn yr arfarniad. Gellir defnyddio’r templedi canlynol i’ch helpu i gofnodi a dadansoddi eich cyfranogiad.

Nid yw’r rhestr yn un gyflawn  mewn unrhyw ffordd ac nid yw’r templedi yn cynnwys er enghraifft meysydd megis cyfrannu at faes Ansawdd a chynhyrchiant (QP) QOF, cyfarfodydd practis, prosiectau consortia, sefydlu gwasanaeth gwell newydd etc. Dylai’r templed gwefan arfarnu safonol fod yn ddigonol ar gyfer cofnodion o'r fath.

Enghreifftiau o “waith ymarfer” fyddai’n briodol i’w defnyddio yn eich ffolder arfarnu.                

  • Mae llawer o’r gwaith yr ydym yn ei wneud fel meddygon teulu yn cynnwys gweithio fel tîm. Rydym yn gweithio gydag eraill er mwyn darparu gofal iechyd i’n cleifion, ac ar brydiau mae’n anodd dogfennu’r gwaith tîm yma at ddibenion arfarnu. Un enghraifft fyddai cydweithiwr yn y practis sydd yn archwilio’r broses o fonitro lithiwm, ac mae’r casgliad data cychwynnol yn dangos mai dim ond 40% o’r cleifion sydd ar lithiwm sydd â lefel gwaed sydd o fewn yr ystod therapiwtig yn ystod y 6 mis diwethaf. Rydych yn eistedd i lawr gyda’ch cydweithiwr ac yn creu strategaeth er mwyn gwella hynny; yna byddwch yn gweithio yn unol â’r cynllun hwnnw. Bydd eich cydweithiwr yn gorffen yr archwiliad, mae gwelliant yn y gofal i gleifion, ond mae’n anodd i chi benderfynu cynnwys yr archwiliad hwnnw yn eich ffolder arfarnu, oherwydd nad y chi “wnaeth” yr archwiliad.
  • Nid yw archwiliad o ddigwyddiadau arwyddocaol bob amser yn cynnwys unigolyn yn uniongyrchol, ac mae’n hanfodol bod gan bractis system digwyddiadau arwyddocaol yn i le, a dylid dangos hynny mewn arfarniad. Gellir dangos cyfraniad unigolyn at SEA ac mae templed ac enghraifft ar gael yn y ddogfen hon.

Efallai y bydd unigolyn yn dymuno dangos mewn arfarniad bod eu datblygiad yn cael ei helpu (neu ei rwystro) gan y system maent yn gweithio ynddi.

  • Mae cymysgedd o sgiliau ymarfer yn ffactor bwysig wth ystyried datblygiad personol. Os oes yna 4 meddyg teulu yn y practis sydd yn darparu mân lawdriniaethau, efallai y bydd unigolyn arall yn ei ystyrid fel blaenoriaeth ddatblygiadol isel, ond os na fydd unrhyw feddyg teulu arall yn y practis wedi cael eu hyfforddi, bydd y flaenoriaeth yn amlwg yn newid. Mae templed ar gyfer archwilio cymysgedd sgiliau practis ar gael yma.
  • Efallai y byddwch yn dymuno ystyried eich sgiliau eich hun mewn perthynas ag anghenion eich practis. Gall y templed  yma fod yn fuddiol.
  • Datblygu practis- efallai bydd practis yn bwriadu symud safle, dod yn bractis hyfforddi, cymryd myfyrwyr meddygol neu newid y system apwyntiadau. Gallai datblygiadau mawr effeithio ar gynllun datblygu unigolyn ar gyfer y flwyddyn arfarnu honno.
  • QOF – mae nifer o bractisau yn cael pwyntiau QOF uchel, ac mae’r  amcanion yn newid yn barhaus. Efallai y bydd unigolyn yn dymuno amlygu sut y mae wedi cyfrannu at y practis yn y maes yma, a naill ai nodi anghenion dysgu fydd yn deillio o hynny neu amlygu datblygiad neu waith tîm sydd wedi helpu i gyflawni’r llwyddiant hwnnw.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau