Cyngor gan Arfarnwyr
- Nid oes angen cofnodi eich holl weithgareddau CPD; dewiswch enghreifftiau sydd yn dangos eich bod yn bodloni eich gofynion GMC neu y byddech yn dymuno eu trafod gyda’ch Arfarnwr.
- Nid oes angen i chi gyfrif credydau dysgu. Mae gofynion y GMC yn canolbwyntio ar ddeilliannau ac allbynnau gweithgaredd addysgol a datblygiad.
- Sicrhewch eich bod wedi adolygu eitemau PDP y llynedd a’u bod yn gynwysedig. Ar MARS bydd angen i chi nodi a ydych wedi bodloni’r eitemau PDP blaenorol yn llawn, yn rhannol neu ddim o gwbl, cyn yr arfarniad.
- Dylai Meddygon Teulu newydd ychwanegu eu PDP Hyfforddai i’r adran ‘PDP dyheadol’ ar MARS i’w Harfarnwr nesaf ei adolygu.
- Clustnodi gwybodaeth ategol ar gyfer ail-ddilysu
- Nid oes angen disgrifio popeth a drafodir mewn cyfarfodydd etc. Defnyddiwch enghreifftiau i ddangos ffocws ar fyfyrdod dysgu a sut y bydd hynny yn effeithio ar ymarfer.
- Dylech gynnwys digon o wybodaeth fel y gall eich Arfarnwr neud synnwyr o’ch cofnod, a deall beth ydych wedi ei wneud; ansawdd yn hytrach na swm!
- Ceisiwch osgoi ailadrodd yr un pethau o un flwyddyn i’r llall, anelwch am amrywiaeth yn ystod y cylch 5 mlynedd.
- Ceisiwch gynnwys o leiaf un cofnod ym mhob maes er mwyn sicrhau eich bod yn ymdrin â holl briodoleddau Ymarfer Meddygol Da.
- Sicrhewch bod tystiolaeth mewn perthynas ag unrhyw rolau ychwanegol neu rolau arweiniol yn cael eu cynnwys yn ystod eich cylch ail-ddilysu 5 mlynedd.
- Peidiwch â disgwyl trafod pob eitem yn eich ffolder, bydd eitemau dethol yn cael eu trafod yn fanwl.
- Hysbyswch eich Arfarnwr am eich dyddiad ail-ddilysu, mae hwnnw i’w gael ar MARS.
- Rhowch fanylion am unrhyw gwynion a dderbyniwyd neu a ddatryswyd yn ystod y cyfnod arfarnu.
- Darllenwch y datganiadau yn ofalus a’u cwblhau yn flynyddol. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ddatganiad sicrhewch eich bod yn cofnodi’r manylion perthnasol yn y maes perthnasol.
- Gwiriwch gywirdeb y crynodeb cyn cytuno arno - mae’n broses na ellir ei dadwneud.
- Cyfeiriwch yn ôl at eich crynodeb a’r PDP drwy gydol y flwyddyn.