Crynodeb

Mae Ymarfer Myfyriol yn disgrifio’r broses pan fo meddwl beirniadol a myfyrdod yn hysbysu datblygiad personol ac yn arwain at newidiadau mewn ymddygiad all arwain at fuddion i’r cleifion yn y pen draw.  Mae’r GMC yn cyfeirio’n fynych at yr angen i feddygon ddangos eu bod wedi myfyrio ar digwyddiadau yn eu ffolderi arfarnu, a bod yr enghreifftiau a roddir yn dangos sut mae hynny yn gysylltiedig â’r chwe maes tystiolaeth sydd eu hangen er mwyn hysbysu ail-ddilysu. Bwriad yr adnodd yma yw nid yn unig defnyddio enghreifftiau i ddangos sut mae meddygon yn myfyrio, ond pam, sydd efallai yn bwysicach.  Mae myfyrdod yn helpu meddygon i ystyried a herio gwerth ymarfer presennol, ac wrth wneud hynny gellir ystyried y posibiliadau o ganlyniad i newid fydd arwain at welliannau yn y gwasanaeth maent yn ei ddarparu.  Hefyd, gall methu â gwneud hynny arwain at y math o ddiffyg newid sydd yn datblygu i fod yn anfodlonrwydd tuag at ofal, ac at gwynion yn y pen draw.  Mae parhau i drwyddedu meddygon i ymarfer yn dibynnu i raddau helaeth ar osgoi cwynion.

Disgrifir amrywiol ‘arfau’ ar gyfer helpu’r meddyg sydd yn chwilio am help i adnabod a datblygu’r agweddau hynny o’i waith/gwaith sydd yn ymarfer myfyriol, ond mae’r rhan fwyaf o glinigwyr hyfedr yn gwneud hynny fel rhan naturiol o’u gwaith.  Ond cwyn gyffredin gan weithwyr proffesiynol yw bod gorfod ‘ysgrifennu hynny’ yn faich ynddo ei hun.  Byddai rhywun yn gobeithio bod rhai o’r myfyrdodau uchod yn tystiolaethu am werth ychwanegol gwneud hynny.  Dadleuir yn ddiwyro, yn fwyaf amlwg gan y GMC ei hun, y gallai methu â gwneud hynny arwain at risg o ran cofrestriad.  

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, fydd yn mynd â chi at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau