Myfyrio ar adborth 360 gradd

Mae meddwl critigol yn rhan annatod o ymarfer myfyriol.  Does dim amheuaeth bod pob ymarferydd effeithiol yn ystyried cywirdeb eu gweithredoedd yn ofalus iawn.  Ond, ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael i weld beth mae pobl eraill yn meddwl am sgiliau, gwybodaeth a gweithredoedd ei gilydd.  Y tu ôl i len ddiogel anhysbysrwydd, mae adborth 360 gradd yn cynnig cyfle prin i gleifion a chydweithwyr roi gwybodaeth onest a thrylwyr mewn perthynas â pherfformiad ac ymddygiad meddyg. Felly mae llawer ohonom yn ymroi ein hunain i graffu o’r fath gyda pheth ofn.  Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio peidio cael unrhyw sioc fawr neu newyddion annisgwyl.  Ond, hyd yn oed os bydd y gwir yn brifo, siawns na all dim fod yn well ysgogiad i wella na’r gwir plaen o weld yr hunain drwy lygaid rhywun arall.  Wrth ystyried y math yma o fyfyrdod, mae’r gwir a ddatgelir yn y drych yn ymddangos yn llai heriol yn fwyaf sydyn.

Enghraifft glinigol

Bydd meddyg yn cyfarfod yn fuan â’i ‘Gydweithiwr Meddygol Cefnogol’ (SMC) ac mae’n derbyn y sylwadau testun rhydd canlynol yn ei ddogfennau 360 gradd:

‘… ei glinigau yn tueddu i redeg yn hwyr ac nid yw’n gwneud ei ran deg o’r gwaith…’ - adborth cydweithiwr

‘… mae’n ymddangos bod ganddo fwy o ddiddordeb ysgrifennu ei nodiadau na gwrando ar beth oedd gennyf i’w ddweud…’ – adborth gan glaf

Yn naturiol mae’r meddyg yn siomedig â’r sylwadau yma ac mae’n teimlo ychydig yn isel pan fo’r SMC yn ei gyfarch.  Maent yn rhannu eu meddyliau am alwadau practis modern. Mae’r meddyg yn cyfaddef ei obsesiwn gyda chadw cofnodion manwl ar ôl cwyn y flwyddyn flaenorol a’i beirniadodd am ansawdd wael ei nodiadau.  Mae’n cyfeirio at ei ddyhead i ganolbwyntio mwy ar y claf ac i dreulio mwy o amser yn ystyried meddyliau a syniadau ei gleifion, ond mae’n cyfaddef ei bod yn ymddangos bod ymdrechion i fod felly yn arwain ar ymgynghoriadau hirach. Mae sylwadau ei gydweithiwr yn atgyfnerthu ei bryder. 

Meddyg a menyw yn dal dyddiadur y mae'n ysgrifennu ynddo

Mae’r SMC yn rhannu ei feddyliau ei hun am yr heriau a’r galwadau niferus sydd yn gysylltiedig ag ymgynghoriadau, ac maent yn ystyried dulliau all helpu i fynd i’r afael â hynny.  Maent yn trafod yr opsiwn o ysgrifennu’r nodiadau pan fo’r claf wedi gadael yr ystafell, ac mae’r meddyg hefyd yn penderfynu trefnu ffilmio ei ymgynghoriadau er mwyn arsylwi ar ei weithredoedd ei hun ac effaith hynny ar y cleifion.  Mae’r SMC yn ei gyfeirio at fodiwl ar-lein ar ‘Sgiliau Cyfathrebu Uwch’ ac mae’r meddyg yn cytuno y gallai hynny fod yn ffordd fuddiol ymlaen.  Mae hefyd yn penderfynu cyfarfod â’i gydweithwyr agos er mwyn trafod trefniadaeth y clinigau ac er mwyn ystyried ffyrdd y gallent sicrhau bod gwaith yn cael ei rannu’n deg. Mae’n ystyried a allai dechrau ei glinig hanner awr yn gynharach ei helpu i fodloni ei rwymedigaethau.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld cipluniau o gofnodion MARS sydd yn adlewyrchu’r enghraifft uchod.

Adborth Cydweithiwr

Adborth Claf

Arfau myfyrio: Mae myfyrio yn cynnwys ‘meddwl beirniadol’.  Gall meddyliau beirniadol pobl eraill fod ymysg y rhai mwyaf heriol a datguddiol.  Gall myfyrio ar feddyliau o’r fath ar eich pen eich hun fod yn ddinistriol,  ond gall ystyried meddyliau pobl eraill mewn amgylchedd o ymddiriedaeth arwain at ddeilliannau mwy cadarnhaol.  Er mwyn gwneud dewisiadau da ac ychwanegu gwerth, mae’n rhaid i rywun ddarllen, ymholi, trafod ac ystyried....(i aralleirio A C Grayling).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau