Myfyrdod yn ymarferol

Yn ystod ein cyfnodau ffwythiannol bydd nifer ohonom yn ystod y dydd yn ystyried ein gweithredoedd yn ofalus, yn pwyso a mesur manteision ac anfanteision cynllun rheoli penodol ac yn gwneud penderfyniad. Pan fyddwn yn rhagnodi gwrthfiotig ar gyfer haint yn y glust neu ar gyfer llid yr isgroen, pan fyddwn yn chwistrellu ysgwydd neu benelin, pan fyddwn yn ystyried rhagnodi steroid neu beidio neu wrth-feirysol, neu’r ddau mewn achos o barlys Bell, rydym yn meddwl am y canlyniadau i’r claf, ac ar brydiau i gymdeithas yn ei chyfanrwydd.  

Ar brydiau efallai y byddwn yn meddwl am y dystiolaeth berthnasol ddiweddaraf mewn perthynas â’r hyn yr ydym yn ei wneud, ond amlach na pheidio bydd yr eiliad neu’r cyfle yn mynd heibio wrth i ni dychwelyd i fwrlwm gwaith.  Mae llenyddiaeth addysg feddygol y llawn enghreifftiau o sut y gallwn ddal gafael mewn adegau o ddysgu fel hyn: Dadansoddi Achosion Problemus, y Rhagnodiad Addysgol etc. ond bydd y gweithiwr proffesiynol aeddfed sydd yn hunan gyfarwyddo yn canfod ei ffordd ei hun. Gall canfod yr amser i wneud hynny fod yn heriol.  Bydd rhai yn ei ymgorffori i’w diwrnod gwaith (e.e. Richard Eve sydd yn bwcio apwyntiad gydag ef ei hun er mwyn ystyried digwyddiadau’r bore) ac anogir llawer ohonom i gadw cofnod ar ffurf ‘Dyddiadur Myfyriol’ neu ‘Gofnod Portffolio’. Ond yn aml bydd ein cyfle i fyfyrio yn dod yn ddiweddarach (neu efallai o reidrwydd).

‘…mae pob dyn dysgedig yn athro iddo ef ei hun…’ - Thomas Payne


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau