Asesu iselder a’i ddifrifoldeb
Daw’r canllawiau canlynol yn uniongyrchol o ganllawiau NICE13:
Mae asesu iselder yn seiliedig ar feini prawf DSM-IV. Dylai asesiad gynnwys nifer a difrifoldeb y symptomau, hyd y bennod gyfredol a chwrs y salwch.
Ni ddylai’r diagnosis o iselder fod yn seiliedig ar gyfrif symptomau yn unig, a cham cyntaf yn unig yw hynny o ran ystyried amgylchiadau penodol yr unigolyn. Roedd canllawiau blaenorol yn cynnwys seilio’r diagnosis o iselder ar feini prawf ICD-1. Nid yw’r rhain yn gynwysedig yn y canllawiau presennol oherwydd bod y gronfa dystiolaeth ar gyfer triniaethau bron bob amser yn defnyddio DSM-IV.
Symptomau allweddol:
- tristwch a thymer isel parhaus; a/neu
- colli diddordeb neu bleser amlwg.
O leiaf un o’r rhain, y rhan fwyaf o’r dyddiau, y rhan fwyaf o’r amser am o leiaf 2 wythnos.
Os bydd unrhyw rai o’r uchod yn cael eu cyflwyno, holwch am symptomau cysylltiedig:
- effaith ar gwsg (mwy neu lai o’i gymharu â’r arferol)
- mwy neu lai o chwant bwyd a/neu bwysau
- blinder neu golli egni
- anniddigrwydd neu symudiadau arafach
- canolbwyntio gwael neu fethu penderfynu
- teimlad o ddiffyg gwerth neu euogrwydd gormodol neu amhriodol
- meddyliau neu weithredoedd hunanleiddiol.
Yna holwch am hyd ac anabledd cysylltiedig, hanes teuluol a’r gorffennol mewn perthynas ag anhwylderau tymer, ac argaeledd cymorth cymdeithasol.