Asesiad risg o hunanladdiad

Dyn yn dal ei wddf  ac yn edrych yn drist

Mae asesiad risg o hunanladdiad yn rhan bwysig o rôl y meddyg teulu yn ystod ymgynghoriadau mewn perthynas ag iselder mewn ymarfer cyffredinol. Dim ond 25% o’r bobl sydd wedi lladd eu hunain sydd wedi cael cysylltiad â thimau gofal iechyd meddyliol arbenigol, bydd y rhan fwyaf o’r 75% arall wedi cael cysylltiad â gwasanaethau rheng flaen yn cynnwys gofal sylfaenol, a nifer o’r rhain yn ystod yr wythnosau blaenorol. Yn aml ni fydd y risg wedi cael ei adnabod yn ystod y cysylltiad blaenorol.

Mae nifer o bractisau yn trafod achosion o hunanladdiad ac ymdrechion hunanleiddiol fel digwyddiadau arwyddocaol yn ystod cyfarfodydd practis, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth a rhoi cymorth i’w gilydd ynghylch testun anodd.

Awgrymwyd y gellid lleihau morbidrwydd a niferoedd marwolaethau drwy gynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad, a phetai mwy o hyfforddiant perthnasol clinigol ar gyfer y tîm gofal sylfaenol ar gael ac yn cael ei ddefnyddio. Mae yna nifer o offerynnau ellir eu defnyddio yn ystod ymgynghoriadau. Mae yna hefyd raglenni hyfforddiant megis Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cymhwysol (ASIST), sydd yn amcanu at hyrwyddo ffyrdd realistig o ddelio â chleifion mewn trallod sydd yn ystyried hunanladdiad mewn clinigau prysur yn ystod y bore, strategaethau syml ar gyfer rhoi cynnig gobaith a datblygu ‘cynlluniau diogel’. Mae hyfforddiant clinigol berthnasol am ddwy awr wedi cael ei ddatblygu ar gyfer ymarfer cyffredinol, ‘Cysylltu â phobl’.

Adnoddau at-lein

Mae’r canlynol yn rhai adnoddau ar-lein sydd yn berthnasol i Gymru ac sydd yn delio â lliniaru risg hunanladdiad:

Mind Positive Choices Project sydd yn dathlu pum mlynedd o godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad

www.wamhipc.org.uk safonau aur mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau