Beth sydd angen i mi ei gynnwys?

Manylion personol a phroffesiynol - bydd angen i chi sicrhau bod eich manylion yn gyfredol. Bob blwyddyn, fel rhan o’r datganiadau blynyddol, bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi gwirio a/neu diweddaru eich manylion personol a phroffesiynol.

Pryd: YN FLYNYDDOL

Gyda’r math o wybodaeth ategol isod, dylech fod yn canolbwyntio ar fyfyrio, dysgu a deilliannau. 

CPD / gwybodaeth arfarnu -  nid oes isafswm nac uchafswm wedi ei bennu o ran swm y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer arfarniad, ac mae canllawiau GMC yn nodi ‘yn ystod eich arfarniadau blynyddol, byddwch yn defnyddio gwybodaeth ategol i ddangos eich bod yn parhau i fodloni’r egwyddorion a’r gwerthoedd a nodir yn Ymarfer Meddygol Da. Ni argymhellir unrhyw swm penodol o oriau o CPD, ond mae’n rhaid cael digon o ddeunydd ar gyfer seilio arfarniad ystyrlon arno. Dylai’r pwyslais fod ar ansawdd yn hytrach na swm. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma. Dylech sicrhau bod eich CPD yn cynnwys holl gwmpas eich ymarfer.

Pryd: YN FLYNYDDOL

Adolygu cwynion a chanmoliaeth - Mae’n rhaid i chi ddatgan pob cwyn ffurfiol yn ystod cyfnod yr arfarniad. Gall y cwynion yma gynnwys cwynion nad ydynt wedi eu datrys hyd yma neu gwynion o gyfnod blaenorol a ddatryswyd yn ystod y cyfnod arfarnu presennol. Nid oes angen manylion gormodol am y gwyn, bydd diddordeb eich arfarnwr yn y ffaith eich bod yn ymgysylltu â’r broses gwyno ac unrhyw ddeilliannau dysgu neu newidiadau a wnaed o ganlyniad i hynny.

Mae canmoliaeth yn rhan bwysig o adborth a dylid cynnwys hynny hefyd. Pryd: YN FLYNYDDOL

Dadansoddiad o Digwyddiadau Arwyddocaol / Digwyddiadau Critigol - dylech ddogfennu unrhyw ddigwyddiad anfwriadol neu annisgwyl a allai fod wedi neu a arweiniodd at niwed i un neu ragor o gleifion. Hyd yn oed os nad oeddech yn uniongyrchol gysylltiedig â’r digwyddiad, ond eich bod wedi dysgu neu newid eich ymarfer o ganlyniad i hynny, gallwch gynnwys hynny.

Pryd: YN FLYNYDDOL

Gweithgaredd Gwella Ansawdd - Dylai hyn fod yn berthnasol i’ch gwaith a dylech gynnwys elfen o werthuso a gweithredu.

Pryd: UNWAITH BOB CYLCH AIL-DDILYSU

Adborth gan Gleifion – hwylusir ar hyn o bryd gan Orbit360, efallai y byddwch hefyd yn clywed hwn yn cael ei gyfeirio ato fel 'Adborth 360' neu 'Adborth Aml-Ffynhonnell ' (MSF). Dylai eich adborth i gleifion gwmpasu ystod llawn eich ymarfer. Gall pob meddyg sy'n dal cysylltiad rhagnodedig â chorff dynodedig y GIG yng Nghymru gofrestru ar Orbit360 a gofyn am arolwg. Lle y bo'n bosibl, defnyddir gwybodaeth gan MARS a'r GMC i awdurdodi'r rhain. Fodd bynnag, os nad ydynt, caiff y rhain eu hadolygu â llaw gan corff dynodedig y meddyg. Os nad ydych yn gweld cleifion efallai y byddai'n briodol i chi gwblhau adborth gan gydweithiwr yn unig, ond mae'n rhaid trafod hyn gyda'ch Swyddog Cyfrifol, gallwch gysylltu â nhw drwy'r tîm ail-ddilysu yn eich corff dynodedig.

Pryd: UNWAITH BOB CYLCH AIL-DDILYSU

Adborth gan Gydweithiwr – hwylusir hyn ar hyn o bryd gan Orbit360, efallai y byddwch hefyd yn clywed hwn yn cael ei gyfeirio ato fel 'Adborth 360' neu 'Adborth Aml-Ffynhonnell ' (MSF). Dylai eich adborth i gleifion gwmpasu ystod llawn eich ymarfer a gall gynnwys staff clinigol ac anghlinigol. Gall pob meddyg sy'n dal cysylltiad rhagnodedig â chorff dynodedig y GIG yng Nghymru gofrestru ar Orbit360 a gofyn am arolwg. Lle y bo'n bosibl, defnyddir gwybodaeth gan MARS a'r GMC i awdurdodi'r rhain. Fodd bynnag, os nad ydynt, caiff y rhain eu hadolygu â llaw gan gorff dynodedig y meddyg. 

Pryd: UNWAITH BOB CYLCH AIL-DDILYSU


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau